Mae Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn Wrecsam, aâi gydweithiwr Carl Roberts, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg, wedi cwblhau Her The Skye is the Limit er budd Hosbisau Plant Tš Gobaith.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Karl aâr tĂŽm wedi ymgymryd ââr Her Tri Chopa Cymru aâr Crazy 7 er budd Cerrig Camu Gogledd Cymru ac wedi codi dros ÂŁ1,000 ar gyfer Menstrual Health Project wrth gwblhau her Cairngorm 4000s, taith gerdded tri diwrnod ar draws mynyddoedd 4,000+ troedfedd yn ucheldiroedd dwyreiniol yr Alban.
Gwnaeth Karl a darlithydd Paul Standring hefyd oresgyn ymdaith pedwar diwrnod Freezing Fingers mewn amodau oer a gaeafol dros fynyddoedd Rhinogydd yn Eryri.
Y tro yma, gwnaeth Carl ymuno ag ef, a gydaâi gilydd maent wedi codi swm anhygoel o ÂŁ1,400.
âRydyn ni wedi llwyddo! Dros 53 milltir mewn 33 awr a dros 8,000 troedfedd o uchder,â meddai Karl.
âRoedd yn her enfawr ond yn werth chweil, trwy wynt a glaw a phob math o dir, mi wnaethon ni gyflawni ein nod.
âMi wnaethon ni lwyddo i wneud 26 milltir mewn un diwrnod, a chael noson go lew o gwsg ac yna aethon ni yn Ă´l ati’r diwrnod wedyn a cherdded i fyny ac i lawr, ond mi wnaethon ni helpu ein gilydd.â
Ychwanegodd Carl: âDiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi arian aân cefnogi ni ar ein taith.
âMi wnaethon ni yrru dros 20 awr mewn bws mini yn ystod y noson cyn cyrraedd yn Skye ac yna dechreuodd y daith! Am antur, roedd yn anodd, ond mi wnaethon ni lwyddo.â
Gwnaeth y pâr gario bagiau 20 cilo ar eu cefnau – a oedd yn cynnwys pebyll, bwyd a dĹľr – gan frwydro gydaâr tywydd yn ystod y daith.
Gwnaeth Bethan Young swyddog codi arian ardal Wrecsam Tš Gobaith ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion gan ddweud: âAm ymdrech anhygoel, roedden niân gwybod y bydden nhwân llwyddo ac rydyn ni mor ddiolchgar am y swm anhygoel maen nhw wediâi godi.
âMi fydd bob ceiniog yn ein helpu ni i barhau ein cenhadaeth i alluogi teuluoedd i gael gofal proffesiynol a gwella ansawdd bywyd eu plant.
âDiolch anferthol i Karl a Carl a phawb sydd wedi rhoi arian iâw her.â
Maeâr sefydliad yn darparu gofal a chymorth hanfodol i blant â chyflyrau syân bygwth bywyd ac mae ganddo ddwy hosbis a 15 o siopau ar draws Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Canolbarth a Gogledd Cymru syân helpu i godiâr ÂŁ7.5 miliwn sydd ei angen i ariannu gofal i bob plentyn mewn angen.
Gallwch chi noddi Karl aâr tĂŽm yma:Â Karl Jackson yn codi arian ar gyfer Ty Gobaith (justgiving.com).
Ewch i www.hopehouse.org.uk i weld y newyddion aâr wybodaeth ddiweddaraf gan hosbisau plant Tš Gobaith
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle