Bydd y tîm y tu ôl i’r fenter arloesol yn mynychu Sioe Fwyd Ysgol LACA yn Birmingham dros gyfnod o ddeuddydd o ddydd Mercher 3 Gorffennaf.
Wedi’i gyflenwi gan Menter Môn, bydd Larder Cymru – sy’n gweithio gyda chynghorau Wrecsam, Sir y Fflint, Ynys Môn, Gwynedd, Caerdydd a Chaerffili fel rhan o gynllun peilot Bwyd i Ysgolion Cymru – yn cael cwmni dau o hoelion wyth y diwydiant, sef Harlech Foodservice a Castell Howell Llanelli.
Gyda chefnogaeth Rhaglen Gwasnaeth Bwyd– Bwyd a Diod Cymru, maen nhw ar genhadaeth i arddangos y cynnyrch a’r cynhyrchwyr gorau o bob rhan o Gymru ac yn amlygu’r modd y bydd ysgolion yn lleihau eu cadwyni cyflenwi trwy brynu ganddyn nhw, gan annog cynaliadwyedd, gostwng allyriadau carbon a chefnogi’r economi.

Mae Swyddog Arweiniol Bwyd Larder Cymru, David Wylie o Ynys Môn, yn credu y bydd datblygu cadwyni cyflenwi rhanbarthol o fudd i awdurdodau lleol a’r sector preifat.
“Mae Sioe Fwyd Ysgol LACA yn ddyddiad allweddol yn y calendr i ni,” meddai.
“Mae’n llwyfan pwysig ar gyfer y cwmnïau anhygoel o bob maint sydd gennym ni’n cynhyrchu bwyd a diod o ansawdd uchel yng Nghymru, ac yn gyfle i hyrwyddo eu hachos ymhlith gwneuthurwyr penderfyniadau mawr y sector addysg.

“Mae prynu cynnyrch Cymreig yn neges rydyn ni wedi’i hyrwyddo ers sawl blwyddyn bellach, neges sy’n bwysicach nag erioed, am resymau amgylcheddol ac ariannol o ystyried yr heriau sy’n wynebu’r blaned a pherchnogion busnes, yng Nghymru a thu hwnt.”
Ychwanegodd David: “Rydyn ni’n gobeithio dod at ein gilydd a thrafod y materion hyn yn ystod y sioe, a chreu partneriaethau newydd a fydd yn meithrin cydweithredu hirdymor ac yn rhoi mwy o gynnyrch Cymreig ar y fwydlen ar gyfer disgyblion ysgol.”
Y thema ar gyfer cynhadledd, arddangosfa, cystadlaethau, a gwobrau eleni yw Gwella Bwyd Ysgol‘, a ddewiswyd er mwyn canolbwyntio ar y ffaith bod darparu prydau maethlon i blant wedi dod yn fwyfwy heriol oherwydd cynnydd sylweddol mewn costau, prinder staff a diffygion ariannol.

Bydd amryw o siaradwyr a sesiynau panel yn archwilio strategaethau a all helpu i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y bwyd ysgol gorau un er mwyn cefnogi eu twf a’u dysg.
Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd llysgennad newydd LACA, cyn Chef Cenedlaethol y Flwyddyn, Mark Sargeant.
Dywedodd Is-gadeirydd Cenedlaethol LACA, Judith Gregory bod y sefydliad yno i roi “llais” i bawb sy’n darparu arlwyo o fewn y sector addysg.
Ychwanegodd: “Rydyn ni’n falch o weld Larder Cymru yn mynychu unwaith eto, yn dathlu ac yn codi ymwybyddiaeth o’r nifer fawr o gynhyrchwyr bwyd gwych yng Nghymru a’r rôl y gallan nhw ei chwarae wrth gyflenwi bwyd iach, maethlon i’r sector addysg.
“Drwy weithio gyda’n gilydd byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i godi safonau, ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol, ac i ostwng ôl troed carbon awdurdodau lleol ledled y DU.”
Mae Bwyd Cymreig i Ysgolion Larder Cymru yn cael ei gefnogi gan Gronfa Gefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru.
Mae Menter Môn, drwy’r cynllun hwn a phrosiectau arloesol eraill, yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar gymunedau drwy greu a darparu cyfleoedd i fusnesau ac unigolion.
Am ragor o wybodaeth am Sioe Fwyd Ysgol LACA, ewch i LACA School Food Show | LACA, the school food people.
Am ragor o wybodaeth am Larder Cymru, ewch i www.lardercymru.wales neu anfonwch e-bost at david@mentermon.com. Fel arall, dilynwch @mentermon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle