Codwr arian yn nenblymio er cof am ei thad

0
186
Pictured above (L-R): Millie Shaw-Jones, Terry John Jones and Ellie Shaw-Jones.

Mae Ellie Shaw-Jones yn herio Naid am Nawdd i godi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi a Hosbis Ty Bryngwyn yn Ysbyty Tywysog Philip.

 Bydd Ellie yn cymryd rhan yn y Naid am Nawdd ar 26 Gorffennaf 2024 er cof am ei thad, Terry John Jones, a fu’n borthor yn Ysbyty Tywysog Philip am dros 40 mlynedd.

 Dywedodd Ellie: “Yn drist iawn, collodd fy nhad bendigedig, Terry Jones (Croen), ei frwydr ddewr gyda chanser ar 16 Ebrill 2022. Bu Dadi’n gweithio fel porthor yn yr hen Ysbyty Cyffredinol Llanelli ac yna Ysbyty Tywysog Philip am 40 mlynedd ond yn anffodus bu’n rhaid iddo orffen pan gafodd ei ddiagnosis dinistriol.

 “Ni fydd unrhyw beth yn dod â Dadi yn ôl, ond hoffwn roi rhywbeth yn ôl i’r bobl wych a gymerodd ofal anhygoel ohono.

 “Byddwn yn hynod ddiolchgar pe gallech fy noddi, waeth pa mor fach yw eich rhodd, tra byddaf yn ymgymryd â’r her frawychus hon.”

Dywedodd Nicole Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Hoffem ni ddweud pob lwc i Ellie gyda’i Naid am Nawdd!

 “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 Gallwch gyfrannu at godwr arian Ellie yma: https://www.justgiving.com/page/ellie-shaw-jones-1712600161111

 Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG. I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle