4️⃣

0
116
ASau Plaid Cymru sydd newydd eu hethol

Annwyl Friend

Cadw ein 2 Aelod Seneddol, ac ennill dau arall – dyma ganlyniad arbennig i Blaid Cymru sy’n adlewyrchu’r cynhesrwydd a’r brwdfrydedd gwirioneddol rydym wedi bod yn ei deimlo ar garreg y drws am y chwe wythnos diwethaf.

Er gwaethaf cyd-destun anodd y don di-gynsail i Lafur, dyma ganlyniad gorau’r Plaid Cymru erioed mewn Etholiad Cyffredinol – gyda’r gyfran fwyaf o seddi a enillwyd.

Roedd pobl yn dweud wrthym yn gyson eu bod yn ysu i weld cefn y Torïaid ond nad oedd Llafur yn cynnig newid gwirioneddol ychwaith.

Safodd Plaid Cymru ar lwyfan positif ac uchelgeisiol o degwch i Gymru ac rwyf wrth fy modd bod pobl wedi rhoi eu ffydd mewn pedwar ymgeisydd rhagorol i’w cynrychioli yn San Steffan.

Bydd Liz, Ben, Llinos ac Ann yn gweithio’n ddiflino i sicrhau na fydd llais Cymru byth yn cael ei anwybyddu gan y llywodraeth Lafur newydd.

Er gwaethaf taflu popeth at Gaerfyrddin ac Ynys Môn, methodd ton Llafur ledled y DU yn wyneb ymgyrchoedd lleol cryf a dau ychwanegiad newydd rhagorol i rengoedd y Blaid yn San Steffan.

Mae’r canlyniad hwn yn dangos mai Plaid Cymru yw’r dewis amgen clir i Lafur yng Nghymru ac mae ein ffocws bellach yn symud at gyflwyno gweledigaeth y gall mwy o bobl ei chefnogi yn Etholiad y Senedd yn 2026.

Wnewch chi’n helpu ni i adeiladu ar y llwyddiant yma drwy ymaelodi gyda Phlaid Cymru?

Dros Gymru,

Rhun

Rhun ap Iorwerth
Arweinydd Plaid Cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle