Teulu yn diolch i’r GIG trwy gyflawni taith redeg arwrol o Fryste i Langynnwr

0
163
Uchod: y rhieni Bethan Wyn Evans a Carwyn Evans gyda Mari Glyn

Mae teulu o Langynnwr, Caerfyrddin yn bwriadu cyflawni taith redeg arwrol i godi arian ar gyfer gwasanaethau yn y GIG a ddarparodd ofal hanfodol i’w merch, Mari Glyn.

Bydd tad Mari Glyn, Carwyn Evans, a chriw o gefnogwyr yn rhedeg 110 milltir o Ysbyty St Michael, Bryste i Langynnwr rhwng 1 Awst a 4 Awst 2024.

Byddant yn mynd heibio’r tri ysbyty a achubodd fywyd Mari Glyn a rhoi gofal hanfodol iddi, gan gynnwys Ysbyty Glangwili.

Bydd y teulu’n cynnal dathliad ym Mharc Llangynnwr o 3-6 p.m. ar 4 Awst i groesawu Carwyn yn ôl o’i daith redeg 110 milltir. Bydd y digwyddiad yn cynnwys y diddanwr plant, Siani Sionc, mochyn rhost, castell bownsio, a llawer rhagor.

Bydd yr arian a godir ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn mynd i’r Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) yng Nglangwili.

Dywedodd Carwyn: “Rydym yn codi arian ar gyfer yr elusennau a’n helpodd ni i gael ein merch fach gref, benderfynol a dewr adref.

“Yn dilyn diagnosis torcalonnus pan oedd Bethan 28 wythnos yn feichiog, cafodd ddwy driniaeth gynenedigol ym Mryste, cyn i ni orfod dod i benderfyniad anodd yn ystod wythnos 31 i Mari gael ei geni’n gynnar mewn ysbyty arbenigol ym Mryste, a hynny mewn cyflwr critigol.

“Ni fu’n bosibl i ni gael ein cwtsh cyntaf nes ei bod yn bum wythnos oed. Yn chwe wythnos oed, daeth Mari dros y gwaethaf a bu’n bosibl i ni ddod yn ôl i Gymru, ond nid adref eto.

“Bu i ni dreulio chwe wythnos arall rhwng Uned Gofal Dwys Babanod Newydd-anedig Ysbyty Singleton ac Uned Gofal Dwys Babanod Newydd-anedig Ysbyty Glangwili, lle cafodd Mari driniaethau a gofal. Yn araf bach, lleihaodd ei hangen am gymorth anadlu a meddyginiaeth gref, ac wedi iddi ddod i allu bwydo, cafodd y tri ohonom ddod adref, bron dri mis yn ddiweddarach.”

Dywedodd Bethan Wyn Evans, mam Mari Glyn: “Mari Glyn yw ein gwyrth fach!

“Cawsom ofal mor dda gan nyrsys yr Uned Gofal Arbennig Babanod ac rydym mor ffodus bod gennym arbenigedd ein Pediatregydd Ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili.

“Mae cael gofal o’r radd flaenaf yn ein cymunedau yn allweddol, ac felly rydym yn codi arian i Elusennau Iechyd Hywel Dda i gefnogi’r gwasanaethau pwysig y mae Uned Gofal Arbennig Babanod Glangwili yn eu darparu yn ein hardal leol.

“Mae ein diolch i’r GIG yn ddiderfyn. Mae gallu, sgìl a charedigrwydd ei staff wedi achub ein teulu bach.”

Dywedodd Bethan Osmundsen, Uwch-nyrs Pediatreg Acíwt ac Uwch-nyrs Dros Dro Babanod Newydd-anedig yng Nglangwili: “Mae cael uned gofal arbennig babanod yn Ysbyty Glangwili yn cefnogi’r teuluoedd a’r babanod hynny y mae arnynt angen gofal arbenigol i aros gyda’i gilydd yn nes at gartref, ac mae’n darparu cam i lawr o uned gofal dwys babanod newydd-anedig, i baratoi babanod a theuluoedd ar gyfer eu rhyddhau’n ddiogel i fynd adref.

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i Bethan, Carwyn a’u holl gefnogwyr am eu hymdrechion anhygoel ac am ddymuno cefnogi ein gwasanaeth. Rydym yn teimlo’n freintiedig iawn ein bod yn gallu gofalu am fabanod a’u teuluoedd ar adeg anodd, ac mae gallu gwneud gwahaniaeth yn ysgogi ein tîm anhygoel.

“Mae pob rhodd a ddaw i law yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n babanod, eu teuluoedd a’n staff. Dymunwn y gorau iddynt ar gyfer y digwyddiad, a byddwn yn eu hannog yn eu blaen.”

Mae Mari Glyn yn mynd o nerth i nerth erbyn hyn ac yn parhau i gael gofal arbennig gan Ganolfan Plant Glangwili.

Ar 26 Awst, bydd stori’r teulu’n ymddangos mewn rhaglen ddogfen awr o hyd ar Heno ar S4C.

Gallwch gefnogi’r digwyddiad codi arian ar gyfer Uned Gofal Arbennig Babanod Glangwili yn: https://www.justgiving.com/page/mariglynglangwili-1708175933696


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle