Rhodd hael i gefnogi cynllun ymatebwyr gwirfoddol a allai achub bywydau ym Mhowys

0
186
A donation by Knighton Hospital and Community League of Friends will support the set-up of a new Volunteer Alternative Responder Team run by St John Ambulance Cymru in partnership with the Welsh Ambulance Services University NHS Trust.

Bydd cyllid newydd gan Gynghrair Cyfeillion Ysbyty a Chymuned Tref-y-Clawdd yn helpu gwirfoddolwyr St John Ambulance Cymru ym Mhowys i gefnogi pobl yn eu cymuned ac achub bywydau.

Bydd y rhodd o £35,000 yn cefnogi sefydlu Tîm Ymatebwyr Amgen Gwirfoddol newydd yng nghymuned Tref y clawdd, gan ariannu cerbydau hanfodol ac offer meddygol. Bydd y fenter hon yn cael ei rhedeg gan St John Ambulance Cymru mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gan ddarparu gofal achub bywyd i’r rhai mewn angen.

 Bydd gwirfoddolwyr hyfforddedig St John Ambulance Cymru yn ymateb i ddigwyddiadau brys yn y gymuned, gan ddarparu gofal achub bywyd yn y munudau pwysicaf. Bydd galwadau’n cael eu brysbennu gan y gwasanaeth ambiwlans i wirfoddolwyr tra medrus sydd ar alwad gerllaw ac yn gallu ymateb yn gyflym, yn aml cyn y gall ambiwlans fynychu.

 Mae St John Ambulance Cymru eisoes yn cynnal cynlluniau tebyg mewn cymunedau ledled Cymru, gan ategu adnoddau’r GIG i sicrhau bod y bobl sydd ei angen fwyaf yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt mewn argyfwng.

 Mae yn elusen sydd wedi ymrwymo i gefnogi cleifion a chyn gleifion Ysbyty Tref-y-Clawdd, ynghyd ag eraill yn y gymuned sy’n sâl ac angen cymorth.

 Bydd gwasanaeth Ymatebwyr Amgen Gwirfoddol St John Ambulance Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r nodau hyn, gan weithredu fel achubiaeth i unigolion sydd wedi’u brifo neu’n sâl yn yr ardal.

Dywedodd Darren Murray, Pennaeth Gweithrediadau Cymunedol yn St John Ambulance Cymru; “Hoffem estyn ein diolch i bawb yn Gynghrair Cyfeillion Ysbyty a Chymuned Tref-y-Clawdd am ei chefnogaeth.

“Bydd y rhodd hael hon yn cefnogi sefydlu gwasanaeth sydd wedi bod yn amhrisiadwy mewn cymunedau gwledig ledled Cymru, gan ddarparu gofal brys ac achub bywydau. Bydd y fenter hon yn galluogi ein gwirfoddolwyr i gefnogi pobl Tref y Clawdd ymhellach a lleihau amseroedd aros cleifion mewn argyfwng.”

 Mae St John Ambulance Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd a lles mewn cymunedau ledled Cymru ac mae’r cynllun Ymatebwyr Amgen Gwirfoddol yn un ffordd yn unig y maent yn gweithio tuag at hyn. Mae’r elusen cymorth cyntaf yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y gwasanaeth hwn yn ei gael ar iechyd a lles pobl Tref y Clawdd yn y misoedd nesaf.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned, neu os hoffech chi ddarganfod mwy am waith achub bywyd St John Ambulance Cymru, ewch i www.sjacymru.org.uk.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle