Y Brifysgol Agored yng Nghymru ar frig prifysgolion Cymru am foddhad myfyrwyr

0
157
Ben Lewis

Mae myfyrwyr ledled Cymru wedi sgorio’r Brifysgol Agored yng Nghymru fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr.

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2024 a gyhoeddwyd heddiw (10 Gorffennaf) yn rhoi sgôr boddhad cyffredinol o 86.7% i’r Brifysgol Agored yng Nghymru – cynnydd o 3.4 pwynt canran o’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn o’i gymharu â chyfartaledd o 81.4% ar gyfer prifysgolion ledled Cymru.

Dywedodd Ben Lewis, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru:

“Ein prif nod yw cefnogi a galluogi llwyddiant ein myfyrwyr. Mae gennym filoedd o fyfyrwyr gwych ledled Cymru, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cydbwyso astudio gyda gwaith a bywyd teuluol.

“Mae gennym ni berthynas werthfawr ac adeiladol gyda’n cynrychiolwyr myfyrwyr. Rydym yn blaenoriaethu cyfarfod â nhw, ac yn wir gwrando ar leisiau ein holl fyfyrwyr ar draws y wlad. Yn y misoedd diwethaf, rydym wedi cynnal digwyddiadau caffi myfyrwyr yng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Llandudno i ddarganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw. Rydym yn ymateb i’r hyn y maent wedi’i ddweud wrthym.

“Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig rhaglen academaidd sy’n cael ei chydnabod yn eang fel rhaglen ragorol. Mae ein staff addysgu wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr i gael y gorau o’u dysgu a chyflawni eu potensial. Maent hefyd yn arwain ar ymchwil arloesol sy’n mynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf cymdeithas. Mae hyn yn amrywio ar draws yr holl faterion hanfodol sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru heddiw. Mae enghreifftiau o’n hymchwil yn cynnwys dinasyddiaeth weithredol, tlodi tanwydd, mapio ein coed trefol, a mynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Rydym yn gwybod bod ein myfyrwyr yn gwneud dewis i astudio gyda ni. Rydym yn gwerthfawrogi’r dewis hwnnw ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad at greu Prifysgol fywiog, unigryw a llwyddiannus. Llongyfarchiadau i’n staff a’n myfyrwyr ar ganlyniad gwych sy’n adlewyrchu eu gwaith caled a’u hymroddiad.”

Y Brifysgol Agored yw darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf Cymru. Ar hyn o bryd mae ganddi dros 16,000 o fyfyrwyr yng Nghymru – mae dros ddwy ran o dair o’r rhain mewn cyflogaeth tra byddant yn astudio.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle