CYNNYDD SYDYN YN NIFER Y CWYNION YN ERBYN AELODAU O’R SENEDD YN ADRODDIAD DIWEDDARAF Y COMISIYNYDD SAFONAU

0
103
Image by marian from Pixabay

Cafwyd cynnydd o 167 y cant yn nifer y cwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd yn 2023-24, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yn ôl adroddiad blynyddol Comisiynydd Safonau’r Senedd a gyhoeddwyd heddiw.  

 Daeth cyfanswm o 190 o gwynion i law, o’i gymharu â dim ond 71 yn 2022-23 a dyma’r ail uchaf yn y nifer o gwynion yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

O’r cwynion a ddaeth i law rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, roedd 53 yn ymwneud ag ymddygiad ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd 17 yn ymwneud â safon y gwasanaeth a ddarparwyd gan Aelodau, roedd 29 yn ymwneud ag ymddygiad yn y Cyfarfod Llawn neu Weinidogol ac roedd 24 yn ymwneud â methu â chofrestru neu ddatgan buddiant.  Roedd bron pob un o’r rhain yn ymwneud â chofrestru ychydig ddyddiau y tu allan i’r cyfnod o bedair wythnos a ganiateir. 

Roedd y 67 cwyn a oedd yn weddill yn ymwneud ag ystod eang o faterion gan gynnwys polisi Llywodraeth Cymru a materion eraill nad ydynt o fewn cylch gwaith y Comisiynydd. 

Gellir esbonio’r cynnydd hwn yn rhannol gan y ffaith bod dau Aelod rhyngddynt yn destun 58 o gwynion ac un aelod o’r cyhoedd wedi gwneud 26 o gwynion, nad oedd yr un ohonynt yn erbyn yr un o’r Aelodau hyn.

Nifer y cwynion annerbyniadwy oedd 159, a dyma’r uchaf yn ystod y pedair blynedd diwethaf hefyd. Y prif resymau eu bod yn annerbyniadwy oedd tystiolaeth ategol annigonol neu eu bod yn ymwneud ag ymddygiad na fyddai, pe bai’n cael ei brofi, yn torri’r rheolau.  

Fodd bynnag, er bod pryder ynghylch y ffigurau uwch hyn, mae ymddygiad cyffredinol yr Aelodau o’r Senedd yn parhau i fod o safon uchel.

Materion allweddol eraill a amlygwyd yn yr adroddiad yw’r ymchwiliad i Rhys ab Owen, lle canfuwyd ei fod wedi torri Cod Ymddygiad y Senedd, gan arwain at atal yr Aelod o’r Senedd am 42 diwrnod.

Daeth 30 o gwynion i law hefyd ynghylch y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya, yn bennaf trwy’r cyfryngau cymdeithasol gyda hanner y rhain yn gwrthwynebu’r terfyn newydd a’r hanner arall yn gefnogol.

O’r 30 o gwynion, roedd 26 yn annerbyniadwy.

Dywedodd Comisiynydd Safonau’r Senedd, Douglas Bain; “Er y gallai’r cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion fod yn achos pryder, mae hefyd yn dangos bod mwy o ddiddordeb cyhoeddus mewn craffu ar waith ac ymddygiad Aelodau o’r Senedd.

 “Mae craffu cyhoeddus yn chwarae rhan bwysig yn ein proses ddemocrataidd ac er gwaethaf y cynnydd hwn, nid wyf yn credu bod nifer y cwynion a ddaeth i law yn dangos unrhyw ostyngiad yn safon uchel ymddygiad gyffredinol Aelodau o’r Senedd.

 “Er gwaethaf sesiynau ymwybyddiaeth, sylwadau a wnaed gan Aelodau ar y cyfryngau cymdeithasol yw’r pwnc mwyaf cyffredin o bell ffordd o ran cwynion a byddwn yn eu hannog i gymryd mwy o ofal pan fyddant ar y cyfryngau cymdeithasol.”

 Prif ddyletswydd y Comisiynydd yw ymchwilio i gwynion bod Aelod wedi torri darpariaethau’r Cod Ymddygiad neu ddarpariaethau penodol eraill, a llunio adroddiadau yn eu cylch. Yn ôl y gyfraith, gwaherddir y Comisiynydd rhag rhoi gwybodaeth am unrhyw gŵyn benodol.

Mae’r gost o redeg swyddfa’r Comisiynydd yn dibynnu’n bennaf ar nifer a chymhlethdod y cwynion a ddaw i law, a’r ymchwiliadau a gynhelir.  Roedd y cynnydd o 12 y cant yn y gwariant yn 2023-24 yn deillio o’r ffactorau hyn.  Er gwaethaf y cynnydd hwnnw, mae’r costau rhedeg yn parhau i fod dros 16 y cant yn llai na’r gwariant yn 2020-21.

 Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am waith arall a wnaed gan y Comisiynydd, ac ystadegau sy’n ymwneud â chwynion am y pum mlynedd diwethaf.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle