Rhestr aros ganolog ar gyfer mynediad i ofal deintyddol rheolaidd

0
178

Mae Gwasanaeth Deintyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflwyno rhestr aros ganolog ar gyfer y rhai sydd angen mynediad at ofal deintyddol GIG rheolaidd.

Mae’r rhestr aros ganolog wedi’i hanelu at gefnogi cleifion yn ardal Hywel Dda sy’n dymuno cael gofal deintyddol rheolaidd.

Gofynnir i gleifion ychwanegu eu henw a’u manylion cyswllt at y rhestr aros fel y gellir eu dyrannu i wasanaethau deintyddol pan fydd un ar gael.

Mae ychwanegu eich manylion at y rhestr aros yn syml a gellir ei wneud mewn nifer o ffyrdd.

  • Gall cleifion lenwi’r ffurflen ar-lein drwy ddefnyddio cod QR, a fydd ar gael ar bosteri mewn lleoliadau cymunedol a meddygfeydd.
  • Fel arall gallant ddilyn y ddolen hon: https://forms.office.com/e/Q0xJvJK7VF
  • Gall cleifion hefyd ffonio 0300 303 8322 a bydd aelod o’r tîm yn llenwi’r ffurflen ar-lein ar eich rhan gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd.
  • Neu gellir cysylltu â thîm y gwasanaethau deintyddol drwy e-bost yn dentalservicesteam. hywelddahealthboard@wales.nhs.uk

Bydd gwybodaeth cleifion yn cael ei threfnu yn ôl y Sir y maent yn byw ynddi – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro – ac mewn trefn gronolegol o’r dyddiad y cyflwynwyd gwybodaeth gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein neu a gasglwyd gan y sawl sy’n delio â galwadau.

Unwaith y bydd capasiti ar gael, bydd y Practis Deintyddol y maent yn cael ei ddyrannu iddynt yn cysylltu â chleifion.

Sylwch, er mwyn i’r ffurflen gael ei chyflwyno, bydd angen i bob claf gynnwys ei rif GIG. Gellir dod o hyd i hwn ar ohebiaeth gan eich Meddyg Teulu neu Ysbyty, fel arall gallwch gael mynediad i’ch rhif GIG trwy’r ddolen ganlynol:

Find your NHS number – NHS (www.nhs.uk)

Ni allwn roi gwybod ar hyn o bryd pryd y bydd cleifion yn cael eu dyrannu i bractis, os oes angen gofal deintyddol brys arnoch oherwydd gwaedu afreolus yn dilyn triniaeth ddeintyddol neu drawma i’r geg, chwydd wyneb a/neu boen dannedd, dylech gysylltu â 111 a byddwch yn cael cyngor angenrheidiol a/neu apwyntiad fel y bo’n briodol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle