Cynnig tocyn trên a thocyn mynediad i Sioe Frenhinol Cymru

0
180
Royal Welsh Agricultural Show 2017 Builth Wells, Powys, Mid Wales © Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2024) Cymru Wales

Gall ymwelwyr â’r Sioe Fawr arbed arian ar docyn mynediad trwy deithio i faes y sioe gyda Trafnidiaeth Cymru.

Gall cwsmeriaid sy’n prynu tocynnau trên i orsaf Heol Llanfair-ym-Muallt naill ai o swyddfa docynnau neu gan docynnwr ar y trên hefyd brynu tocyn mynediad i’r Sioe Frenhinol.

Y prisiau yw £31 am docyn oedolyn (pris mynediad wrth y giât yw £36) a £10 i blant a bydd trefnwyr y Sioe yn rhedeg bysiau o Heol Llanfair-ym-Muallt i faes y sioe eto eleni.

Mae TrC hefyd yn cynnal gwasanaeth ychwanegol i/o orsaf Heol Llanfair-ym-Muallt, a fydd yn cyrraedd am 10yb bob bore ac yn gadael am 6.30yh ar ôl y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran TrC: “Pleser o’r mwyaf yw gweithio gyda threfnwyr Sioe Frenhinol Cymru i gynnig mynediad i’r digwyddiad am bris gostyngol eleni wrth brynu tocyn trên.

“Nid yn unig y mae pobl yn arbed arian ond maen nhw hefyd yn helpu i leihau effaith amgylcheddol y digwyddiad drwy deithio’n fwy cynaliadwy wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

“Rydym wedi ychwanegu gwasanaeth ychwanegol i/o faes y sioe ar bob diwrnod y digwyddiad a byddwn yn ychwanegu mwy o gapasiti i’n gwasanaethau lle bo hynny’n bosibl.”

Rhaid i gwsmeriaid sy’n prynu tocyn sioe hefyd gael tocyn trên dilys i Heol Llanfair-ym-Muallt. Dim ond ar y dyddiad a nodir ar y tocyn trên y gellir defnyddio tocynnau mynediad i’r sioe.

Mae’r Sioe Frenhinol yn rhedeg o ddydd Llun 22 Gorffennaf tan ddydd Iau 25 Gorffennaf, gellir manteisio ar y cynnig hwn o docyn trên a thocyn sioe cyfunedig gan brynu ymlaen llaw ac maent bellach ar werth.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle