Gwirfoddolwyr yng Nghaerfyrddin yn cynnig help llaw i’r gymuned ehangach gyda Chlwb Brecwast Gwyliau’r Haf

0
203
Rhai aelodau o’r tîm gwirfoddoli cyfeillgar a fydd yn rhedeg Clwb Brecwast Gwyliau’r Haf yn adeilad Adran Caerfyrddin St John Ambulance Cymru.

Mae Adran Caerfyrddin St John Ambulance Cymru yn agor ei drysau dros yr wythnosau nesaf ar gyfer Chlwb Brecwast Gwyliau’r Haf. Dyma un yn unig o’r ffyrdd y mae gwirfoddolwyr yn defnyddio eu hadeilad, sydd newydd ei adnewyddu, i gefnogi a gofalu am eu cymuned leol.

Mae’r  gwirfoddolwyr yng Nghaerfyrddin yn edrych ymlaen at ddarparu brecwast am ddim (opsiynau fegan a heb glwten / llaeth ar gael), gweithgareddau a man diogel i bobl ifanc a allai fod angen cymorth ychwanegol yn ystod yr egwyl ysgol. Bydd y Clwb Brecwast Gwyliau’r Haf yn rhedeg o 09:00 – 11:00 bob dydd Sadwrn o 27 Gorffennaf – 31 Awst, yn eu hadeilad yn 27 Barn Road, Caerfyrddin.

Mae adeilad Adran Caerfyrddin yn ganolbwynt hanfodol ar gyfer gweithgaredd gwirfoddol yn yr ardal. Dyma le mae oedolion, plant a gwirfoddolwyr ifanc yn cwrdd ag yn hyfforddi, a lle cynhelir arddangosiadau cymorth cyntaf ar gyfer grwpiau cymunedol allweddol a’r cyhoedd. Mae bellach yn cael ei ddefnyddio i ddod ag aelodau o’r gymuned ehangach at ei gilydd ar adeg sy’n anodd i lawer.

“Rydyn ni’n gwybod bod gwyliau’r haf yn gallu bod yn anodd, yn enwedig i deuluoedd ar incwm is, ac roedden ni eisiau gwneud rhywbeth i geisio helpu,” meddai Sion Betts, gwirfoddolwr St John Ambulance Cymru yng Nghaerfyrddin. “Rydym wedi ein hysbrydoli gan hanes Sant Ioan a’n traddodiad balch o groesawu rhai sydd mewn angen.”

 “Mae’n wych gweld yr ymateb positif rydyn ni wedi’i derbyn gan y gymuned leol. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gwesteion i ymuno â ni am frecwast dros y gwyliau a chwrdd â mwy o bobl ledled Caerfyrddin.”

 Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan nifer o fusnesau a grwpiau lleol gan gynnwys y siopau Morrisons a Tesco lleol yn ogystal â’r Siop ‘Climate Shop’, sy’n cyfrannu eitemau, a bydd gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gefnogi’r sesiynau trwy gydol yr haf.

Mae gwirfoddolwyr yng Nghaerfyrddin wedi cadarnhau bod y clwb brecwast yn agored i bawb ac yn annog pobl i gysylltu â sion.betts1@carmarthen.sjaw.org.uk os oes ganddyn nhw unrhyw gwestiynau.

Mae elusen cymorth cyntaf Cymru yn recriwtio gwirfoddolwyr i ymuno â’r tîm yng Nghaerfyrddin, a ledled Cymru. Ewch i www.sjacymru.org.uk/volunteer i gofrestru nawr a dechrau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned.

You can find out more about St John Ambulance Cymru’s ongoing work enhancing the health and wellbeing in communities across Wales by visiting www.sjacymru.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle