Y Gymraeg yn cael lle blaenllaw yn y Sioe Fawr

0
141

Mae’r Gymraeg wedi cael lle blaenllaw erioed yng ngweithgareddau Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ond mae’r sefydliad bellach wedi cael cydnabyddiaeth am yr ymroddiad wrth sicrhau cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg.

Cydnabyddiaeth swyddogol Comisiynydd y Gymraeg yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg.

Wrth i’r Sioe Amaethyddol gychwyn heddiw (22 Gorffennaf) yn Llanelwedd dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr y Sioe, ei fod yn hynod falch o allu derbyn y Cynnig Cymraeg,
“Gyda chanran uwch o weithwyr yn y sector amaethyddol yn medru’r Gymraeg nag unrhyw sector arall yng Nghymru a’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y diwydiant yn sylweddol uwch na chyfartaledd y boblogaeth gyffredinol, mae cysylltiad byw iawn rhwng bodolaeth a dyfodol y Gymraeg, a’r diwydiant amaeth.

“Mae’r Gymraeg yn greiddiol, nid yn unig i’n gwaith ni yma ar faes y Sioe Amaethyddol, ond ar lefel ehangach yng nghefn gwlad Cymru. Mae’r iaith a’r diwylliant yn rhan annatod o fywyd amaethyddol Cymru ac mae derbyn cydnabyddiaeth swyddogol am hynny yn gymorth i ni hyrwyddo’r Gymraeg ymhellach gyda chymuned y Sioe yng Nghymru a thu hwnt.

“Mae’r wythnos hon yn naturiol yn binacl i ni yng Nghymru ac mae derbyn y Cynnig Cymraeg yn gychwyn gwych i’r ŵyl.”

Wrth ymweld â maes y Sioe dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg,
“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth am yr hyn y maent yn ei gynnig drwy’r Gymraeg. Drwy wneud hynny y gobaith yw y bydd yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.

“Mae’r diwydiant amaethyddol yn rhan hanfodol o economi a diwylliant cymunedau gwledig Cymru, lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd. Mae sicrhau ffyniant yr economi wledig ac amaethyddol felly yn hollbwysig er mwyn gweld twf yn y nifer sy’n siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd.

“Ar gychwyn un o’n gwyliau pwysicaf hoffwn longyfarch y Sioe ar dderbyn y Cynnig Cymraeg a dymuno pob llwyddiant iddynt ar hyd yr wythnos.”

Ers lansio’r cynllun ym mis Mehefin 2020, mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi i Gynnig Cymraeg dros 120 o fusnesau ac elusennau, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio gyda nifer o sefydliadau eraill ar ddatblygu cynlluniau.

Mae mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg ar gael yma.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle