NSPCC Cymru yn annog Eisteddfodwyr i alw heibio eu stondin ar y Maes

0
109

Bydd tîm o NSPCC Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yr wythnos nesaf yn hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli, yn rhoi sylw i ymgyrchoedd i gadw plant yn ddiogel, ac yn casglu barn am y llinell gymorth Gymraeg. 

Bydd staff a gwirfoddolwyr yn croesawu plant ac oedolion i stondin yr elusen ar y Maes rhwng 3 a 10 Awst.  

Bydd digon weithgareddau i’r plant ar ein stondin. Hefyd, bydd cyflwynwyr Cyw ar S4C yn galw heibio i ddarllen llyfr yr NSPCC, Pantosorws a Phŵer y PANTS, i blant bach.  

Mae’r llyfr yn seiliedig ar ymgyrch Siarad PANTS yr elusen, ac mae’n cynnwys dinosor cyfeillgar yr NSPCC, Pantosorws, sy’n dysgu rhieni a phlant am sut i gadw’n ddiogel.  

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, cafodd y llyfr i blant ei gyfieithu i’r Gymraeg ac mae ar gael ym mhob ysgol gynradd, meithrinfa a llyfrgell yng Nghymru.  

Mae NSPCC Cymru yn awyddus i hyrwyddo cyfleoedd i bobl wirfoddoli gyda Childline, Datblygu Cysylltiadau a’i wasanaeth ysgolion. Mae hefyd am ddenu mwy o siaradwyr Cymraeg er mwyn datblygu ei wasanaethau Cymraeg. 

Dywedodd Daniel O’Keefe, Rheolwr Perthynas Hwb Cymru: “Mae NSPCC Cymru wedi ymrwymo i roi mwy o gefnogaeth i blant a theuluoedd Cymraeg ac i gasglu barn am ddatblygu’r llinell gymorth Gymraeg i gefnogi pobl sydd â phryderon am blentyn. 

“Byddwn hefyd yn bachu ar y cyfle i sôn mwy wrth Eisteddfodwyr am ein cyfleoedd gwirfoddoli i gefnogi plant ledled Cymru. 

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol, yr ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop, ac rwy’n annog pawb i ymweld â’n stondin i weld sut gallan nhw helpu i gadw plant yn ddiogel.” 

Bydd NSPCC Cymru hefyd yna i drafod yr ymgyrch Bydd yn Glust, Bydd yn Llais, sy’n cynnig hyfforddiant ar-lein neu wyneb yn wyneb am ddim i helpu oedolion i adnabod pryderon bod rhywbeth o’i le, a beth allan nhw ei wneud i helpu. 

Mae’r sesiynau a’r cwrs hyfforddiant digidol 10 munud ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gyfer busnesau, sefydliadau, ysgolion a grwpiau cymunedol. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle