Gwneud cynnydd ar Gynllun Gwasanaethau Clinigol y Bwrdd Iechyd

0
129

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cymryd mwy o amser i gydweithio â chleifion cynrychiadol, sefydliadau partner a staff, wrth iddo barhau i ddatblygu opsiynau ar gyfer gwasanaethau o fewn y Cynllun Gwasanaethau Clinigol.

Yng nghyfarfod cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2024 yn siambrau Cyngor Sir Ceredigion yn Aberaeron, cyflwynwyd diweddariad i aelodau’r Bwrdd ar gynnydd y Cynllun Gwasanaethau Clinigol.

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar naw gwasanaeth: Gofal Critigol, Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys, Strôc, Endosgopi, Radioleg, Dermatoleg, Offthalmoleg, Orthopedeg ac Wroleg.

Roedd argymhellion ar gyfer opsiynau i newid y gwasanaethau hyn i fod i gael eu gwneud yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2024, ond bydd hyn nawr yn digwydd ar 28 Tachwedd 2024. Bydd hyn yn caniatáu i wybodaeth ychwanegol bwysig gael ei chasglu gan dimau staff, gan gynnwys cymysgedd o staff clinigol, gweithredol, cynorthwyol a chynrychiolwyr rhanddeiliaid eraill, megis Llais.

Pwysleisiodd Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro Hywel Dda, bwysigrwydd casglu gwybodaeth gynhwysfawr i sicrhau’r gyfres orau bosibl o opsiynau ar gyfer sut y gellid newid y naw gwasanaeth yn y dyfodol. Dywedodd, “Fel rhan o’n hymagwedd, mae angen i ni sicrhau ein bod yn ystyried yr holl wybodaeth a gasglwyd. Os ydym yn teimlo bod hyn yn gofyn am amser ychwanegol gyda’n grwpiau adborth, yna byddwn yn blaenoriaethu hyn. Rydym yn anelu at gyfres o opsiynau i’n naw maes gwasanaeth gael eu cyflwyno i’r Bwrdd ym mis Tachwedd. ”

Clywodd y Bwrdd sut mae’r rhaglen yn gweithio gyda gwahanol staff, cleifion, cynrychiolwyr y cyhoedd a sefydliadau partner a chynhaliwyd nifer o weithdai yn ystod y misoedd diwethaf. Mae pobl sy’n cymryd rhan wedi ystyried yr hyn sy’n bwysig (meini prawf rhwystr – y meini prawf lleiaf y dylid eu bodloni) ac opsiynau posibl i wella pob un o’r meysydd gwasanaeth sy’n cael eu hystyried yn y Cynllun Gwasanaethau Clinigol.

Dywedodd Mr Henwood: “Mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnwys staff, cleifion a rhanddeiliaid drwy gydol y broses hon a bydd yn parhau i ddarparu diweddariadau wrth i’r Cynllun Gwasanaethau Clinigol fynd rhagddo.”

I gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau yn barhaus, trowch at wefan benodol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda : https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/canolbarth-a-gorllewin-iachach/cynllun-gwasanaethau-clinigol/biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/canolbarth-a-gorllewin-iachach/cynllun-gwasanaethau-clinigol/ Dylai’r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn ymgysylltu yn y dyfodol neu a hoffai gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y bwrdd iechyd ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol ymuno â chynllun ymgysylltu Hywel Dda: bihttps://phdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/siarad-iechyd-talking-health/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle