Rowan, bachgen ysgol, yn codi £900 ar gyfer uned oncoleg

0
146
Pictured above (L-R): Annie Ritchie, Wendy, Jo, Liliana Guta, Rowan Nickerson, Louise MacDonald and Amy Rees-Thomas

Rhedodd Rowan Nickerson, 12, o Sir Benfro, yn 5k Penwythnos Cwrs Hir Cymru a chododd £900 ar gyfer Uned Ddydd Oncoleg Haematoleg Sir Benfro. 

Cymerodd Rowan ran yn y ras ffordd 5k ar 23 Mehefin 2024 er cof am ei fodryb Sharon a oedd wedi derbyn gofal a thriniaeth mor wych yn yr uned.

Dywedodd Rowan: “Fe wnes i fwynhau fy ras ffordd 5k gyntaf erioed. Diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi ac sydd wedi bod mor garedig â rhoi.”

Dywedodd Liliana Guta, Uwch Brif Nyrs: “Da iawn i Rowan am gymryd rhan yn 5k Penwythnos Cwrs Hir Cymru a chodi arian er cof am ei fodryb. 

“Mae’r holl staff ar yr uned cemo eisiau diolch i Rowan am ei gamp anhygoel, am ei garedigrwydd a’i ymrwymiad. Roedd yn beth mor ganmoladwy i’w wneud, a bydd llawer o gleifion yn elwa o’r arian a gododd. Dylai Rowan fod yn falch iawn ohono’i hun; mae’n ysbrydoliaeth i eraill.”

Bydd codi arian Rowan yn mynd tuag at raglen newydd Heads Up! Gwasanaeth Cymorth Colli Gwallt Canser yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae Heads Up! yn darparu gwasanaeth colli gwallt cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer cleifion canser. Mae’n dod â gweithwyr gofal iechyd a gofal gwallt proffesiynol o’n cymuned leol ynghyd i roi’r wybodaeth a’r cynhyrchion sydd eu hangen ar gleifion i reoli eu colli gwallt ag urddas a dewis.

Y bwrdd iechyd yw’r cyntaf yng Nghymru i redeg y fenter hon a ariennir gan elusen i wella profiad cleifion o golli gwallt sy’n gysylltiedig â chanser.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddweud da iawn Rowan am gymryd rhan yn ei 5k cyntaf a chodi swm mor wych.

 “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle