Bydd Coleg Cambria yn cynnal digwyddiadau agored ar gyfer darpar fyfyrwyr dros yr haf.

0
108
Engineering Deeside

Bydd safleoedd y coleg yn Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Ffordd y Bers ac Iâl yn Wrecsam yn cynnal digwyddiadau dros ddeuddydd o ddydd Iau 22 Awst.

Music

Dywedodd Sue Price, Pennaeth y coleg bod yr wythnosau nesaf yn “gyfnod allweddol” i unrhyw un sydd eisiau cymryd y camau nesaf yn eu haddysg.

“P’un ai eich bod chi’n cwblhau TGAU ac yn penderfynu ar ba gymwysterau Safon Uwch i’w cymryd, neu os ydych chi eisiau darganfod rhagor am brentisiaethau a rhaglenni dysgu yn y gwaith, mae gennym ni’r holl gymorth ac arbenigedd sydd eu hangen arnoch chi,” meddai Mrs Price.

“Mae’r digwyddiadau agored ar 22 Awst a 23 Awst yn gyfle i ddarganfod yr hyn sydd ar gael, siarad â thiwtoriaid a gwneud cais am gwrs, i ddechrau ym mis Medi, neu’r flwyddyn ddilynol.

IalYale Wrexham

“Mae gennym ni ystod eang o gyrsiau ar gael ar dros y pedwar safle, o Ofal Anifeiliaid a Pheirianneg, i Chwaraeon, Therapi Harddwch, Iechyd, Busnes, Cerddoriaeth a llawer rhagor, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pobl ar ein pum safle yn y Gogledd Ddwyrain dros y deuddydd.”

Llysfasi Students

Gallai ymwelwyr fwynhau teithiau o’r cyfleusterau gan gynnwys y canolfannau chweched yng Nglannau Dyfrdwy ac Iâl, coleg cyrsiau’r tir yn Llysfasi, Ysgol Fusnes Llaneurgain, ac adeiladau gan gynnwys y Sefydliad Technoleg a’r adeilad Hafod sydd werth £21 miliwn yn Wrecsam.

Am ragor o wybodaeth am y diwrnodau agored sydd i ddod, ewch i Digwyddiadau Agored < Coleg Cambria a dilynwch Goleg Cambria ar gyfryngau cymdeithasol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle