Yn ystod ymweliad diweddar â Fferm Trychfilod Dr Beynon, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies gyfle i ddysgu mwy am ryfeddodau pryfed, y rôl y maent yn ei chwarae yn ein bywydau a’r hyn y gall bodau dynol ei wneud i’w helpu.
Wedi’i leoli ger Tyddewi, mae Fferm Trychfilod Dr Beynon yn ganolfan ymchwil ac ymwelwyr arloesol ac unigryw, fferm a gwarchodfa natur sydd â Sŵ Trychfilod Trofannol, Amgueddfa Drychfilod, Tŷ Trychfilod Prydeinig, Arddangosfa Ffermio Trychfilod, Llwybrau Fferm a Gardd Furiog.
Yn ystod ei ymweliad, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet gyfle i weld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru o’r Gronfa Rhwydweithiau Natur a chyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi ei ddefnyddio i redeg ei phrosiect Cysylltu Tir Comin a’r Ganolfan Adfer Natur.
Nod y prosiect yw llenwi’r bylchau yn y coridor cynefinoedd tameidiog ar draws penrhyn Tyddewi i gryfhau gwytnwch ei rwydwaith o dir gwarchodedig.
Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd gyfle i weld llwybr y peillwyr sy’n cael ei ail-lansio eleni. Arweiniodd Llwybr Peillwyr Tyddewi at ddynodi Tyddewi fel dinas ‘Cyfeillgar i Wenyn’ gyntaf Cymru.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: Mae wedi bod yn
wych ymweld â Fferm Trychfilod Dr Beynon sy’n canolbwyntio cymaint ar adfer natur, gallwn ni i gyd ddysgu o’r hyn sydd wedi’i gyflawni yma. Mae popeth yn dod at ei gilydd yma mewn gwe wych o fwyd, ffermio, ymchwil a chadwraeth i hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer natur.
“Roedd yn ddiddorol dysgu mwy am bwysigrwydd chwilod y dom Prydain sydd yn anffodus yn dirywio. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth leihau tail ar borfa. Mae chwilod y dom ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn y dom eraill yn awyru pridd yn naturiol yn ogystal â lleihau nwyon tŷ gwydr.
“Diolch yn fawr iawn i bawb yn Fferm Trychfilod Dr Beynon – am le gwych i ymweld ag ef.”
Meddai Dr Sarah Beynon, Cyfarwyddwr Sefydlu: “Roedd yn wych dangos ein gwaith gyda ffermwyr, milfeddygon a chyrff cadwraeth i Ysgrifennydd y Cabinet wrth gysylltu cynefin bywyd gwyllt yma ar benrhyn Tyddewi. Mae gennym gyfle gwych i’r gwaith hwn gael ei ddefnyddio fel astudiaeth achos o atebion arloesol a chydweithredol ar gyfer adfer natur ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd cynaliadwy. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i’r Fferm Drychfilod i weld y prosiect hwn ar waith”.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle