Dathlu crefftwyr lleol: Ffair Grefftau’r Haf yn Llys-y-frân

0
246
Beachcomb Creations

Dydd Sadwrn10 Awst, rhwng 10am a 4pm, bydd Llys-y-frân yn cynnal Ffair Grefftau’r Haf. Cynhelir y digwyddiad yma yn ein pabell fawr newydd sbon, a bydd yn arddangos gwaith rhai o grefftwyr a chynhyrchwyr gorau Sir Benfro. Bydd mynediad i’r achlysur am ddim.

Caiff ymwelwyr gyfle i weld amrywiaeth eang o grefftau lleol, ân gynnwys gwydr, nwyddau lledr, serameg a gwaith metel unigryw.

Annie Wood Art

Bydd Beachcomb Creations yn arddangos darnau wedi eu gwneud â llaw o froc môr, gwydr traul môr a chrochenwaith traul môr oll wedi eu casglu o draethau Sir Benfro. Bydd Annie Wood Artist o Dresaith, peintiwr tirluniau sy’n cael ei hysbrydoli gan ecoleg a hanes naturiol lleol ac sy’n angerddol am ddangos cyfrinachau prydferthwch cudd byd natur, yma hefyd.

Bydd Cruising Free Atlantic Row 2025, pedair menyw o Sir Benfro sy’n paratoi i rwyfo dros Fôr Iwerydd yn 2025 yn gwerthu cardiau cartref, bagiau, a chrysau t a hwdis wedi eu hargraffu’n lleol, gyda’r holl elw’n mynd at eu hantur mawr.

Cwm Deri

Bydd The Thread Room, busnes teuluol dwy chwaer yng nghyfraith, Jane a Sarah, yn arddangos bagiau traeth a bagiau cario ymarferol wedi eu hysbrydoli gan dirweddau lleol. Maen nhw’n creu darnau llai o ddefnydd dros ben ac yn addysgu pobl i wnïo yn Neyland hefyd.

Mae Llys-y-frân yn cynnig amrywiaeth o anturiaethau ar y dŵr ac ar dir sych, gan gynnwys chwaraeon dŵr, pysgota, beicio, cerdded, saethyddiaeth, Crazi Bugz, wal ddringo a thaflu bwyeill. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnwys caffi a siop anrhegion, lle gall ymwelwyr fwynhau tamaid, codi map, a chwilio am gofroddion o Gymru.

major Jewellery

A gallwch fwynhau gwersylla yn yr hafan wledig yma yn Sir Benfro hefyd. Yn ddigon agos at gyffro Dinbych-y-pysgod a Thyddewi, ond yn ddigon pell i ffwrdd i fwynhau gwyliau tawel. Mae’r gwersyll yn edrych dros y llyn ac mae’n cynnig safleoedd glaswellt a chaled o safon uchel, gyda nifer dda o gysylltiadau trydan. Am fanylion: https://llys-y-fran.co.uk/camping-west-wales/.

Mae Llys-y-frân wedi ennill Gwobr Dewis y Teithwyr 2024 TripAdvisor, am ddenu adolygiadau cyson uchel gan gwsmeriaid am yr ail flwyddyn yn olynol.

Oriau Agor

Dydd Llun – dydd Sul 9am – 5pm

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llys-y-frân: https://llys-y-fran.co.uk/

Gwybodaeth Cyswllt

Emily Fearn
Marketing Officer
 
 
 
Emily.Fearn@dwrcymru.com

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i’r golygydd

Am fanylion pellach am Gronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, cysylltwch â:

Sally Walters – Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu’r Atyniadau Ymwelwyr

T: 07747 268411               E: sally.walters@dwrcymru.com

Mae Dŵr Cymru’n unigryw yn y diwydiant dŵr am ei fod mewn perchnogaeth ar ran ei gwsmeriaid

  • Mae’r cwmni wedi bod yn eiddo i Glas Cymru ers 2001. Cwmni a sefydlwyd yn Ebrill 2001 yn unswydd at ddibenion caffael a pherchen ar Ddŵr Cymru yw Glas Cymru.
  • Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gan y cwmni, ac mae’r holl elw ariannol yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid
  • Mae Dŵr Cymru yn buddsoddi’n drwm ac yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu’n cael gwasanaethau o’r safon uchaf
  • Bydd y cwmni’n buddsoddi £1.8 biliwn yn ei rhwydweithiau dŵr a charthffosiaeth rhwng 2020 a 2025.
  • Mae’r cwmni’n gwasanaethu’r rhan fwyaf o Gymru, Glannau Dyfrdwy a Sir Henffordd. Y cwmni yw’r mwyaf ond pump o 10 cwmni dŵr a charthffosiaeth Cymru a Lloegr.

Ymholiadau i swyddfa’r wasg, Dŵr Cymru Welsh Water ar 01443 452452 / press@dwrcymru.com

Dadlwythiadau

Beachcomb Creations

Beachcomb Creations

Dadlwythwch

 

major Jewellery

major Jewellery

Dadlwythwch

 

Cwm Deri

Cwm Deri

Dadlwythwch

 

Annie Wood Art

Annie Wood Art

Dadlwythwch

 

This release/newsletter/briefing has been sent to you by PRGloo on behalf of Dŵr Cymru Welsh Water, because we believe it to be of interest to you and we have a legitimate reason for contacting you.

If you no longer wish to receive these emails, please use the following unsubscribe link: Unsubscribe

If you are a stakeholder and have a concern or would like to report a complaint regarding this email, you can contact PRGloo at info@prgloo.com, or by post at 7 Bell Yard, London, WC2A 2JR.

For everyone else, please contact Dŵr Cymru Welsh Water. You can contact us by email at press@dwrcymru.com or telephone 01443 452452, or via post at Media Management Enquiries, Dŵr Cymru Welsh Water, Fortran Road, St. Mellons, Cardiff, CF3 0LT.

Email not displaying correctly? View it in your browser.

If you’d rather not receive these emails, please use the following unsubscribe link: Unsubscribe | Journalist Privacy Policy

Powered by Onclusive PR Manager © 2024


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle