Tân Peiriant Sychu Dillad ym Mhorth Tywyn – 18-07-24

0
151
Am 10.58yb ddydd Iau, 18 Gorffennaf, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Llanelli, Port Talbot a Chydweli eu galw i ddigwyddiad ym Mhorth Tywyn.

Ymatebodd y criwiau i dân yng nghegin llawr gwaelod annedd ddomestig mewn tŷ pâr.  Achoswyd y tân gan sychwr dillad a defnyddiodd y criwiau chwe set o offer anadlu, tri chamera delweddu thermol, tair pibell jet, un hydrant a mân offer i ddiffodd y tân.

Cafodd cegin yr eiddo ei dinistrio’n llwyr gan y tân. Parhaodd y criwiau i fonitro am fannau poeth cyn gadael y safle am 1pm.

Diogelwch Peiriannau Sychu Dillad

Yn dilyn y tân hwn, mae GTACGC yn atgoffa pobl am ddiogelwch sychwyr dillad a nwyddau gwynion:

  • Peidiwch BYTH â gadael peiriannau heb unrhyw un yn eu goruchwylio – peidiwch â throi’r sychwr dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i’r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys moduron pwerus gyda rhannau sy’n symud yn gyflym a all fynd yn boeth iawn.
  • Peidiwch â gorlwytho’ch sychwr dillad na’i ddefnyddio i sychu eitemau sydd wedi cael eu defnyddio i amsugno hylifau fflamadwy gan gynnwys olew coginio.
  • Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo’n boethach ar ddiwedd y cylch, gofynnwch i weithiwr proffesiynol gael golwg ar y peiriant.

Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch nwyddau gwynion ar gael ar yma.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle