Teithiau trên anghyfyngedig ledled Cymru

0
101
Conwy

Mae Trafnidiaeth Cymru yn lansio tocynnau trên diderfyn yr haf hwn i annog pobl i deithio’n gynaliadwy wrth archwilio harddwch Cymru

O dref harbwr swynol Dinbych-y-pysgod i Gastell Harlech yn y gogledd, gall cwsmeriaid brofi teithiau trên diderfyn y tu allan i oriau brig gyda’n tocyn pedwar neu undydd.

Mae tocynnau hefyd yn cynnwys teithio ar lwybrau bysiau penodol TrawsCymru – gan roi mwy o gysylltiadau a dewisiadau llwybr i gwsmeriaid.

Mae Archwilio Cymru, Archwilio Gogledd a Chanolbarth Cymru ac Archwilio De Cymru yn cynnig 4 diwrnod o deithiau trên diderfyn dros gyfnod o 8 diwrnod, tra bod Archwilio Gorllewin Cymru ac Archwilio Cambrian yn cynnig teithio diderfyn am un diwrnod.

Dywedodd Victoria Leyshon, Rheolwr Marchnata Partneriaeth TrC:

“Mae Cymru’n wlad hardd i’w harchwilio gyda llawer o atyniadau ac mae’r tocynnau trên diderfyn hyn yn rhoi cyfle i ymwelwyr a phobl leol archwilio gan ddefnyddio’r rheilffordd.

“Mae’r dewis o docynnau sydd ar gael yn galluogi cwsmeriaid i deithio o Ogledd Cymru i Dde Cymru gydag arosfannau yn y canol, neu i archwilio un rhanbarth yn unig. Mae tocyn teithio ar gael i bawb a gobeithiwn annog pobl i’w defnyddio a theithio’n gynaliadwy.”

Mae tocynnau ar gael ar wefan neu ap TrC, ac o swyddfeydd tocynnau neu ar fwrdd y trên gan arweinydd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle