Mae Tîm N2S yn ôl i feicio ar hyd Cymru er budd elusen

0
140

Yn dilyn taith lwyddiannus y llynedd, mae Tîm N2S yn ôl i feicio o ogledd i dde Cymru i godi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

 

Mae Tîm N2S yn grŵp o ffrindiau triathlon a chyn cydweithwyr Wayne Evans, a fu farw yn anffodus.

 

Mae’r tim yn herio Taith Beicio Wayne Evans o Ogledd i Dde Cymru ar 24 a 25 Awst 2024.

 

Dywedodd Sara O’Brien, Aelod o Dîm N2S: “Fel ffrindiau a chydweithwyr Wayne a gafodd eu hysbrydoli gan ei gryfder a’i benderfynoldeb, fe wnaethom herio ein hunain drwy feicio o ogledd i dde Cymru ym mis Awst 2023, gan godi dros £3,000 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

 

“Ar ôl y daith lwyddiannus y llynedd, rydym wedi penderfynu ymgymryd â’r her eto i godi arian at elusennau lleol sy’n cefnogi ein cymuned, er cof am ein ffrind annwyl, Wayne.

 

“Bydd yr arian a godir eleni yn mynd i’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, Banc Bwyd Trussell Trust Myrtle House a Chymorth Canser Macmillan, sydd wedi cyffwrdd â chymaint o fywydau yn Llanelli a’r cyffiniau. Byddai unrhyw gefnogaeth i’r elusennau gwych hyn yn cael ei groesawu’n fawr.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Dîm N2S am ymgymryd â’r her enfawr hon ar gyfer yr uned cemo unwaith eto. Pob lwc!

 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

Gallwch gyfrannu at y codwr arian yma: https://www.gofundme.com/f/the-wayne-evans-north-2-south-wales-cycle

 

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle