Canlyniadau arholiadau: Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn llongyfarch myfyrwyr

0
98
Lynne Neagle cabinet secretary for education meets successful students L-R: Kayleigh Coppell, Zoe Bayley-Jones and Lauren Slawson during her visit to the Yale campus Wrexham

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru sydd wedi cael eu canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, Bagloriaeth Cymru Uwch a chymwysterau galwedigaethol y bore yma.

Lynne Neagle cabinet secretary for education congratulates some of the successful students during her visit to the Yale campus, Wrexham

Ar ymweliad â Choleg Cambria yn Wrecsam, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â myfyrwyr oedd yn casglu eu canlyniadau. Dywedodd:

“Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i bawb sy’n cael eu canlyniadau ledled Cymru. Hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr, yn ogystal â’n hathrawon a’n staff gwych yn ein hysgolion a’n colegau, am eu holl waith caled yn arwain at heddiw.

Lynne Neagle cabinet secretary for education and Coleg Cambria CEO Yana Williams congratulate successful students L-R: Catrin Roberts, Lauren Slawson and Dylan Ellis-Jones during a visit to the Yale campus, Wrexham

“Arholiadau eleni yw’r cam olaf wrth i ni ddychwelyd at y trefniadau a oedd ar waith cyn y pandemig. Eleni, am y tro cyntaf ers y pandemig, cynhaliwyd arholiadau ac asesiadau Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol gyda’r un trefniadau â chyn y pandemig.

“Mae’r canlyniadau yn unol â’r hyn roedden ni’n gobeithio ei weld ac maen nhw’n weddol debyg i ganlyniadau cyn y pandemig.

“Dylai pob un ohonoch chi sy’n cael eich canlyniadau heddiw fod yn hynod falch o’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni. Mae heddiw yn dystiolaeth o’ch penderfyniad a’ch dyfalbarhad.

Lynne Neagle cabinet secretary for education meets successful students L-R: Kayleigh Coppell, Zoe Bayley-Jones and Lauren Slawson during her visit to the Yale campus Wrexham

“Beth bynnag yw eich cynlluniau ar gyfer y cam nesaf yn eich bywyd, dymunaf bob lwc i chi i gyd. Mae llawer o ffyrdd i barhau â’ch dysgu. Efallai y bydd rhai ohonoch ar fin dechrau prentisiaeth neu swydd newydd neu efallai eich bod wedi sicrhau lle mewn prifysgol o’ch dewis, gan gynnwys rhai o’n sefydliadau gwych yma yng Nghymru.

“Ond os ydych chi angen cyngor ar beth i’w wneud nesaf, mae digon o wybodaeth a chefnogaeth ar gael i chi, trwy eich ysgol neu goleg yn ogystal â’r Warant i Bobl Ifanc sy’n cynnig ystod o opsiynau.”

 “Byddaf yn parhau i ganolbwyntio ar wneud popeth o fewn fy ngallu i godi safonau a sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle