Cwm Elan yn Dathlu Pen-blwydd yr Argaeau’n 120 oed gyda Digwyddiadau arbennig dros Ŵyl y Banc

0
115

Dwr Cymru Welsh Water News

Mae Cwm Elan wedi trefnu digwyddiad arbennig dros Ŵyl y Banc i ddathlu 120 mlynedd ers agor yr argaeau’n swyddogol. Dydd Sadwrn, 24 Awst, bydd teithiau bws gyda thywysydd yn datgelu hanes cyfoethog a thirweddau bendigedig yr ystâd hyfryd yma yn y canolbarth.

Bydd y daith gyntaf yn gadael am 10:00am ac yn gorffen am ganol dydd, a bydd yr ail daith yn rhedeg rhwng 1:30pm a 3:30pm.Bydd pob taith yng nghwmni tywysydd gwybodus, a bydd yn cynnwys cyfle i fynd y tu fewn i Argae Pen y Garreg, te hufen, parcio am ddim, a chacen fach am ddim i’r 120 ymwelydd cyntaf.

Pris y cyfle hwn i archwilio un o dirnodau mwyaf eiconaidd Cymru yw cwta £20 y pen, ac mae’n berffaith i bobl sy’n mwynhau hanes, sy’n caru byd natur, neu sy’n chwilio am weithgaredd difyr dros y penwythnos.

Bydd y dathliadau’n parhau trwy gydol y penwythnos gyda stondinau Gŵyl Banc dros dro dydd Sadwrn, 24 Awst a dydd Sul, 25 Awst rhwng 9:00am a 5:00pm. Bydd y stondinwyr amrywiol yn cynnwys crefftwyr Cymreig yn arddangos eu creadigrwydd gyda bwydydd, diodydd, celfyddyd a chrefftau.

Mae rhagor o fanylion am y daith a’r farchnad dros dro yn https://elan-valley.co.uk/events/

Mae Cwm Elan yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i’r teulu cyfan. Gall ymwelwyr logi beics (neu ddod â’u beics eu hunain) i grwydro naw llwybr braf, mynd am dro i fwynhau’r tirweddau hanesyddol, neu fwynhau paned a chacen yn y caffi. Am fanylion, ewch i https://elan-valley.co.uk/.

Am Gwm Elan:

Mae Cwm Elan yn y canolbarth yn enwog am ei dirweddau godidog, hanes cyfoethog, a threftadaeth beirianegol hynod. Mae’r cwm yn gartref i gyfres o argaeau a chronfeydd dŵr sydd wedi bod yn darparu dŵr ar gyfer dinas Birmingham ers dros ganrif, gan ei gwneud yn rhan annatod o hanes a datblygiad y rhanbarth.

Oriau agor y Ganolfan Ymwelwyr:

Dydd Llun – dydd Sul, 09:00 – 17:00


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle