Ar gannoedd o ochrau ffyrdd ar draws rhwydwaith ffyrdd strategol Cymru, mae gwaith yn mynd rhagddo i reoli a chynyddu bioamrywiaeth ymylon glaswellt yn well fel rhan o Lwybr Newydd i Natur Llywodraeth Cymru – y Cynllun Gweithredu Adfer Natur.
Mae’r A483 ym Mhlasnewydd ger Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin yn un o nifer o ardaloedd lle byddwch yn darganfod amrywiaeth o flodau gwyllt brodorol a ddewiswyd yn benodol i wella diddordeb botanegol y llain a darparu neithdar ar gyfer peillwyr, fel glöynnod byw. Mae’r ymylon glaswellt lliwgar hefyd yn cynnig pwynt siarad ar gyfer defnyddwyr ffyrdd sy’n mynd heibio ac yn rhoi cefnogaeth i fusnesau lleol trwy gyrchu’r planhigion gan gyflenwyr lleol.
Mewn ychydig llai na blwyddyn mae’r prosiect ym Mhlasnewydd wedi gweld twf gwych ac mae eisoes yn chwarae ei ran wrth gefnogi natur.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle