Ystadegau diweddaraf am berfformiad y GIG yng Nghymru yn ‘waddol damniol wedi’i adael gan Prif Weinidog newydd’ – Mabon ap Gwynfor AS

0
129
Mabon ap Gwynfor AS

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dweud bod ‘angen ailfeddwl radical ar sut i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu ein gwasanaeth iechyd’

Mae ystadegau a ryddhawyd heddiw gan Lywodraeth Cymru ar weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru rhwng Mehefin a Gorffennaf 2024 wedi dangos cynnydd pellach mewn amseroedd aros ledled Cymru am driniaeth, gan fynd â’r ffigyrau i uchelderau newydd.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn datgelu bod o leiaf 615,300 o gleifion ar hyn o bryd ar restr aros yng Nghymru, bron i 20% o’r boblogaeth.

Hefyd yn y canlyniadau mae cynnydd amlwg yn nifer y cleifion sy’n aros dros wyth wythnos am wasanaethau diagnostig, cleifion sy’n aros am wasanaethau therapi a’r rhai sy’n dechrau triniaeth canser.

Mae’r ystadegau perfformiad diweddaraf hyn yn ystod misoedd olaf y Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan, yn ei swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn cymryd y swydd uchaf. Mae Mark Drakeford, y cyn Brif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd rhwng 2013-2016 wedi’i ail-benodi i’r swydd dros dro. Yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog Iechyd, bu cynnydd o 11% yn nifer y cleifion ar restrau aros y GIG yng Nghymru.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mabon ap Gwynfor AS:

“Mae’n fater o siom bod ymdeimlad anochel o fethu â mynd i’r afael ag amseroedd aros y GIG fis ar ôl mis, ac nid yw’r gyfres o ganlyniadau a gyhoeddwyd heddiw yn wahanol, gydag amseroedd aros ar eu huchaf erioed.

“Tra bod Llafur yng Nghymru wedi canolbwyntio ar eu ffraeo mewnol, mae’r Prif Weinidog newydd wedi gadael etifeddiaeth o 615,300 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaeth. Addawodd ddileu rhestrau aros ond methodd. Record damniol i Brif Weinidog newydd Cymru.

“Mae angen ailfeddwl radical ar sut i ymateb i heriau’n GIG. Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson yn ein galwadau – mae angen strategaeth glir gan Lywodraeth Cymru sy’n dechrau gyda chyfaddef bod problem yn y lle cyntaf. Rhaid i Lywodraeth Cymru gomisiynu ymchwiliad annibynnol i berfformiad y GIG yng Nghymru, ac ymrwymo i wneud i dargedau olygu rhywbeth. Mae hynny’n cynnwys dull wedi’i dargedu’n well o fynd i’r afael ag amseroedd aros drwy flaenoriaethu’r rhai sydd â’r angen mwyaf, i ariannu mesurau iechyd ataliol yn well, ac i fuddsoddi yn y gweithlu drwy ddarparu’r amodau gwaith a’r cytundebau maen nhw’n eu haeddu.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle