Casgliadau arallfydol yn Amgueddfa Doc Penfro

0
492
PDHT - Accreditation

Mae Canolfan Treftadaeth Doc Penfro, sy’n adrodd hanes y dref gan gynnwys ei rhan yn creu y Millennium Falcon eiconig ar gyfer Star Wars ym 1979, yn mynd o nerth i nerth diolch i ymroddiad ac ymrwymiad ei gwirfoddolwyr a’i hymddiriedolwyr.

Cyflawnodd yr amgueddfa annibynnol, sydd wedi’i lleoli yng Nghapel hanesyddol y Doc Brenhinol, Safon Achredu Amgueddfeydd y DU ym mis Gorffennaf 2023. Mae’r Safon, sy’n helpu amgueddfeydd i fod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac yn diogelu eu casgliadau, yn cael ei rheoli yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

PDHT – Museum

Mae gan y Ganolfan gasgliad unigryw sy’n adrodd hanes 200 mlynedd y dref a’r Dociau Brenhinol enwog, gan gynnwys arddangosfa barhaol i ddathlu adeiladu y Millennium Falcon ar gyfer ffilm Star Wars, a adeiladwyd yn Noc Penfro. Mae’r arddangosfa’n olrhain taith lawn y llong ofod eiconig, o’i dyluniadau cynnar i’r broses adeiladu i’r logisteg o gludo’r llong ofod wedi’i chwblhau ledled y wlad.

Mae yna hefyd replica maint llawn o gaban peilot llong hedfan Short Sunderland, a oedd unwaith yr awyren enwocaf yn hen Ddoc RAF Penfro.

Mae achrediad amgueddfeydd hefyd yn helpu i sicrhau gofal o safon uchel, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau eu casgliadau. Mae cymorth datblygu amgueddfeydd yng Nghymru yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

PDHT – exhibition

Mae Blaenoriaethau drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant, sydd allan ar hyn o bryd ar gyfer ymgynghoriad, yn pwysleisio pwysigrwydd amgueddfeydd bach, annibynnol ar warchod treftadaeth leol ac adrodd stori cymuned. Mae hefyd yn tynnu sylw at werth gwirfoddolwyr yn y sector diwylliant, yn enwedig mewn sefydliadau sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr fel Canolfan Treftadaeth Doc Penfro.

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant: “Mae Canolfan Treftadaeth Doc Penfro yn chwarae rhan allweddol wrth adrodd straeon diddorol ei chymuned. Mae’n amlwg bod gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr yn angerddol am hanes yr ardal ac wedi ymrwymo i sicrhau bod ei stori’n cael ei hadrodd.

“Mae Safon Achredu Amgueddfeydd yn bwysig wrth gefnogi amgueddfeydd i sicrhau y gallant ffynnu i’r dyfodol ac mae’r Ganolfan yn haeddu cael y dyfarniad.

“Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ei Blaenoriaethau ar gyfer y diwylliant yng Nghymru i osod cyfeiriad y sector yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i gael y Blaenoriaethau’n iawn a dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y gallwn wneud hynny felly rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i roi eu barn ar ein gweledigaeth erbyn dydd Mercher 4 Medi pan fydd yr ymgynghoriad yn cau.”

Dywedodd Graham Clarkson, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth: “Fel amgueddfa sy’n cael ei harwain a’i rhedeg gan wirfoddolwyr, rydym wrth ein bodd ein bod bellach yn cael ein cydnabod ar yr un lefel ag amgueddfeydd mwy a phroffesiynol Cymru. Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu storfa arteffactau newydd ddiogel, gweithdrefnau newydd i sicrhau bod y casgliad yn cael ei fonitro a’i arddangos yn briodol ac ysgrifennu llawer o bolisïau newydd i ymdrin â phob agwedd ar redeg amgueddfa yn yr 21ain ganrif.”

I weld yr ymgynghoriad a rhoi eich barn ewch i: www.llyw.cymru/blaenoriaethau-drafft-ar-gyfer-diwylliant-yng-nghymru-2024-i-2030


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle