Codwr arian yn codi dros £1,600 er cof am ei thad

0
114

Fe wnaeth Ellie Shaw-Jones wneud naid am nawdd a chodi £1,620 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi a Hosbis Tŷ Bryngwyn yn Ysbyty Tywysog Philip.

 

Cymerodd Ellie ran yn y naid am nawdd ar 26 Gorffennaf 2024 er cof am ei thad, Terry Jones, a fu’n borthor yn Ysbyty Tywysog Philip am dros 40 mlynedd.

 

Dywedodd Ellie: “Yn drist iawn, collodd fy Nhad arbennig, Terry Jones (Skin), ei frwydr ddewr gyda chanser ar 16 Ebrill 2022. Bu Dadi’n gweithio fel porthor yn yr hen Ysbyty Cyffredinol Llanelli ac yna Ysbyty Tywysog Philip am 40 mlynedd ond yn anffodus bu’n rhaid iddo orffen pan gafodd ei ddiagnosis dinistriol.

 

“Mae fy nhraed yn ôl ar y ddaear ar ôl profiad mor wych, bythgofiadwy. Hoffwn ddiolch i bob un ohonoch sydd wedi rhoi mor hael”

“Diolch i Elusennau Iechyd Hywel Dda am eich holl gefnogaeth gyda’r codi arian a diolch enfawr i bawb yn Go Skydive Abertawe am fy nghadw’n ddiogel a gwneud y profiad mor anhygoel. A’r diolch mwyaf i fy Mam, Sarah, am brynu’r anrheg ar gyfer fy mhen-blwydd a’m helpu i godi’r swm anhygoel o £1,620 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi a Hosbis Tŷ Bryngwyn er cof am fy Nhad arbennig.”

 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddweud diolch enfawr i Ellie am ymgymryd â’r her. Mae eich dewrder a’ch penderfyniad i ymgymryd â’r her yn ein hysbrydoli ni i gyd!

 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG. I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle