Bydd cytundeb newydd gyda chwmni Rheilffordd Gwili yn lleddfu’r pwysau parcio yn Ysbyty Glangwili

0
136
O’r chwith, cynrychiolwyr Cwmni Rheilffordd Gwili James Buckley a Simon Jones, cynrychiolwyr Hywel Dda Alex Howells Cydlynydd Trafnidiaeth a Theithio, Janet MacKrell, Gweithiwr Cymorth Canser Wroleg Macmillan yn Ysbyty Glangwili sydd wedi archebu ei lle yn y maes parcio newydd a Rheolwr Datblygu Trafnidiaeth Hywel Dda, Ceri Rees.

Mae cynlluniau ar y gweill i leddfu problemau parcio yn Ysbyty Glangwili diolch i gytundeb newydd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chwmni Rheilffordd Gwili.

Mae’r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r atyniad poblogaidd i dwristiaid a agorodd ei faes parcio newydd yn swyddogol i ymwelwyr Rheilffordd Gwili ym mis Awst.

Bydd y lleoedd ychwanegol yn cael eu rhyddhau fesul cam o ddydd Llun, 2 Medi. Erbyn diwedd mis Medi, bydd 144 o leoedd ychwanegol ar gael yn gyfan gwbl i staff Hywel Dda o ddydd Llun i ddydd Gwener, tra bydd y lleoedd gwag yn cael eu defnyddio ar y penwythnos gan ymwelwyr â Rheilffordd Gwili.

Mae’r maes parcio ceir a bysus yn rhan o waith Rheilffordd Gwili ar estyniad deheuol i’r llinell i hen gyffordd Abergwili a agorodd yn 2017.

O’r chwith – cynrychiolwyr Cwmni Rheilffordd Gwili James Buckley a Simon Jones gyda Janet MacKrell, Gweithiwr Cymorth Canser Wroleg Macmillan yn Ysbyty Glangwili sydd wedi archebu ei lle yn y maes parcio newydd. Wrth ymyl Janet mae Alex Howells Cydlynydd Trafnidiaeth a Theithio a Ceri Rees, Rheolwr Datblygu Trafnidiaeth tîm Trafnidiaeth Hywel Dda.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Dyma enghraifft wych o sut y gall gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol adnabyddus ac uchel eu parch roi canlyniadau gwirioneddol gwych.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chwmni Rheilffordd Gwili ar ddatblygu datrysiad parcio ceir ar y cyd a fydd yn gweld cyflwyno 144 o leoedd parcio i staff yn unig ar eu safle ger safle Ysbyty Glangwili.

“Rydym wrth ein bodd y bydd hwn nawr ar gael i’n staff ei ddefnyddio o ddechrau mis Medi.

“Nawr bod y lleoedd hyn ar gael, byddwn yn cadw’r maes parcio uchaf – sydd â 64 o leoedd – ar gyfer cleifion yn unig.

“Bydd y newidiadau hyn yn cefnogi gwelliant yn llif y traffig o flaen y safle ac yn gwneud parcio’n haws i gleifion.

“Hoffwn ddiolch i Gwmni Rheilffordd Gwili am weithio gyda ni a rhoi’r cyfle i ni wella cyfleusterau parcio i staff ac yn eu tro, ymwelwyr a chleifion. Rwy’n siŵr y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’w profiad wrth dderbyn gofal ar ein safle prysur yn Ysbyty Glangwili.

“Diolch hefyd i gydweithwyr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin sydd wedi ein cefnogi yn ystod y broses gynllunio ar gyfer y trefniant parcio newydd hwn.”

Mae Janet MacKrell yn Weithiwr Cymorth Canser Wroleg Macmillan sy’n teithio i Ysbyty Glangwili bob dydd o’i chartref mewn pentref gwledig ger Castell Newydd Emlyn.

“Mae fy mab hefyd yn gweithio yn Ysbyty Glangwili ac rydym yn rhannu car ond mae ceisio dod o hyd i le parcio yn straen mawr. Hyd yn oed os bydd eich sifft yn dechrau’n hwyrach, mae’n rhaid i chi fod yma erbyn 8.00am fan bellaf os ydych am ddod o hyd i le, neu mae’n amhosibl parcio mewn man awdurdodedig.

“Mae llawer ohonom yn byw mewn ardaloedd gwledig, felly nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn. Mae’n rhaid i mi deithio saith milltir i ddal bws a byddai’n rhaid i mi barcio fy nghar ar ochr y ffordd.

“Bydd cael y lleoedd parcio ychwanegol hyn i staff yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Ni fyddwn yn cael ein gorfodi i ddod i mewn yn gynnar i gael lle parcio. Gallwn fynd am apwyntiadau personol – y deintydd, er enghraifft – yng nghanol y dydd a pheidio â phoeni am barcio pan fyddwn yn dychwelyd.

“Bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr – ac mae’r parcio mor agos ag unrhyw le arall i’r ysbyty. Bydd yn cael effaith mor gadarnhaol ar staff ac ar gleifion hefyd sy’n mynd dan straen os na allant barcio.”

Dywedodd Mathew Bowen, Cadeirydd Cwmni Rheilffordd Gwili: “Mae Cwmni Rheilffordd Gwili yn falch o allu cynorthwyo Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r gymuned leol i leddfu’r problemau parcio yn Ysbyty Glangwili. Edrychwn ymlaen at berthynas gadarnhaol barhaus gyda dyrannu lleoedd staff Glangwili ar ein safle Cyffordd Abergwili, a fydd yn ategu ein gweithrediadau rheilffordd treftadaeth ein hunain.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle