Nyrs Arbenigol Anaf Acíwt i’r Arennau (AKI) Glangwili yw’r gyntaf yng Nghymru

0
155
Paula Davies

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi penodi nyrs arbenigol ar gyfer Anaf Acíwt i’r Arennau (AKI) – y rôl gyntaf o’i fath yng Nghymru.

Fel Nyrs Glinigol Arbenigol (CNS) AKI cyntaf Cymru, mae Paula Davies, sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Glangwili, am wella canlyniadau iechyd i’r rhai sydd â chyflyrau acíwt ar yr arennau.

Dywedodd Paula, sydd â bron i 40 mlynedd o brofiad nyrsio arennol: “Mae Anaf Acíwt i’r Arennau yn derm sy’n cwmpasu sbectrwm o anafiadau i’r arennau ac yn hanesyddol, roedd rheolaeth AKI yn Hywel Dda wedi bod yn ddibynnol ar dimau anarbenigol lleol a neffrolegwyr ymgynghorol sy’n ymweld.

“Yn fy rôl newydd fy mhrif nod fydd gwella’r canlyniadau i gleifion AKI yn Ysbyty Glangwili. Mae canfod ac ymyrryd yn gynnar ag AKI mor bwysig. Gyda fy mhrofiad a sgiliau ymarfer clinigol uwch, gobeithio y byddwn yn helpu i atal dilyniant i fethiant organau sengl a lleihau’r angen i drosglwyddo cleifion i Ofal Dwys neu drosglwyddo cleifion yn ddiangen i’r uned arennol arbenigol yn Ysbyty Treforys.

“Byddaf hefyd yn edrych ar gyflwyno apwyntiadau dilynol cynnar i gleifion sydd wedi cael eu trin ar gyfer AKI ac i ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel i nyrsys a chlinigwyr ar draws pob disgyblaeth gofal iechyd yn yr ysbyty.”

Ym mis Awst 2023 sefydlwyd gwasanaeth AKI mewn-gymorth yn Ysbyty Glangwili ac fe’i darparwyd i ddechrau gan Dr Sharan Chugani, cofrestrydd arenneg Arbenigol (SpR) a oedd wedi sicrhau cyllid blwyddyn ar gyfer cymrodoriaeth y tu allan i’r rhaglen mewn gofal iechyd seiliedig ar werth gan Addysg Iechyd Cymru (AaGIC). Cefnogwyd Dr Chugani gan y ddau neffrolegydd ymgynghorol a oedd yn ymweld. Mae penodi swydd Nyrs Arbenigol AKI yn gam dau o’r gwasanaeth.

Mae Paula yn gyffrous iawn i ymgymryd â’r rôl newydd ac arloesol hon – swydd 12 mis a ariennir gan y bwrdd iechyd.

“Mae fy nghefndir arennol yn helaeth,” meddai Paula. “Roeddwn yn nyrs dialysis yn yr uned Arennol yn Abertawe am flynyddoedd lawer nes i mi symud i ffwrdd. Ymunodd fy ngŵr â Heddlu Llundain ac aeth hynny â mi i Lundain am wyth mlynedd.

“Fe wnes i barhau i arbenigo mewn gofal arennol yn Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain, i ddechrau fel Uwch Nyrs Staff ar un o’r wardiau arennol/uned dibyniaeth fawr cyn dod yn nyrs datblygu ymarfer fel rhan o’r tîm addysg arennol.”

Ar ôl dychwelyd adref i Gymru o Lundain dychwelodd Paula i’r uned Arennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ar ôl cael ei phenodi’n Nyrs Glinigol Arbenigol Mynediad Fasgwlaidd Arennol Cyntaf yn y Bwrdd Iechyd.

“Rhan o’r rôl oedd yr elfen Ymarfer Clinigol Uwch,” esboniodd Paula, “Gosod llinell Cathetr Gwythiennol Canolog ar gyfer cleifion sydd angen triniaeth Hemodialysis. Fi oedd yr un gyntaf yng Nghymru ac, fel fy rôl newydd, roedd yn arloesol ac yn heriol.

“Sefydlais wasanaeth cadarn ac arhosais yn y rôl am 18 mlynedd cyn i mi ymddeol. Ar ôl ymddeol, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn barod i hongian fy ngwisg, felly dychwelais i weithio fel nyrs dialysis arennol yn rhan amser yn Uned Dialysis Caerfyrddin.

“Pan glywais am y swydd arennol newydd ac arloesol hon yn y Bwrdd Iechyd – teimlais ei fod yn gyfle gwych i mi gyfuno fy mlynyddoedd o brofiad arennol ac felly dychwelais i’r GIG. Roeddwn i’n teimlo bod gen i fwy i’w roi,” meddai Paula.

“Mae wedi bod yn ychydig o wythnosau prysur iawn,” meddai Paula. “Mae gen i lawer o heriau o’m blaenau ac yn amlwg mae angen i mi brofi gwerth fy rôl a’r gwasanaeth oherwydd hoffem ehangu’r gwasanaeth ar draws y Bwrdd Iechyd.”

Mae Paula yn siarad Cymraeg, ac mae hi’n teimlo bod hyn yn bwysig o ran trin cleifion yn ardal Hywel Dda:

“Mae’n gwneud gwahaniaeth i gleifion, dwi’n sylwi, pan welwn ni nhw ar y ward, yn enwedig y cleifion o Orllewin Cymru, mae llawer ohonyn nhw’n siarad Cymraeg. Mae lot o’n cleifion ni’r genhedlaeth hŷn, ac maen nhw’n llawer mwy cysurus pan maen nhw’n gwybod ein bod ni’n gallu sgwrsio â nhw yn Gymraeg. Mae’n bwysig gwneud i gleifion deimlo’n gyfforddus ac mae cyfathrebu mor bwysig.”

Yn ogystal â dod â’i sgiliau clinigol uwch a’i gwybodaeth i’r rôl newydd hon, mae Paula yn awyddus i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles i’r cleifion sydd wedi profi AKI ac mae wedi bod yn gweithio gyda’r sefydliad elusennol Cronfa Paul Popham, i gefnogi hyn.

“Mae addysgu cleifion i aros yn iach yn bwysig iawn. Bydd taflenni gwybodaeth cleifion yn cefnogi’r wybodaeth a roddir pan fyddant yn dod i’r clinigau ar ôl AKI. Mae’n ymwneud â’u cadw’n iach ac yn wybodus, cleifion a’u teuluoedd.”

Dywed Paula ei bod wedi bod yn bwysig iddi rwydweithio a dod i adnabod yr ysbyty a’r staff fel eu bod yn deall ei rôl a sut y gall eu cefnogi i ganfod AKI mewn cleifion yn gynnar.

“Dydw i erioed wedi gweithio yn Hywel Dda – pan wnes i hyfforddi flynyddoedd lawer yn ôl roedd yn Awdurdod Iechyd Dwyrain Dyfed yn Ysbyty Llanelli, – dechreuodd fy ngyrfa nyrsio yn ôl yn 1984. Nid wyf erioed wedi gweithio yn yr ysbyty hwn ond mae’n rhaid i mi ddweud bod pawb wedi bod yn barod i dderbyn fy rôl ac rwyf wedi cael croeso cynnes iawn.

“Mae’n bennod fawr, mae’n her fawr, ond mae’n gyffrous iawn, gan fy mod yn gwybod y gallaf wneud gwahaniaeth,” meddai Paula.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle