Dysgwch sgiliau achub bywyd gyda St John Ambulance Cymru yn ystod yr ymgyrch Achub Bywyd ym mis Medi

0
85
SJA CCPR Training

Mae ymgyrch Achub Bywyd ym mis Medi St John Ambulance Cymru yn ôl, gan ddarparu ffyrdd gwahanol i bobl dysgu sgiliau cymorth cyntaf mewn  dros y mis nesaf.

Mae ymgyrch Achub Bywyd ym mis Medi yn digwydd bob blwyddyn, gyda’r nod o ledaenu gwybodaeth cymorth cyntaf i gymaint o bobl â phosibl ar draws cyfryngau cymdeithasol a thrwy arddangosiadau cymorth cyntaf am ddim.

Yng Nghymru, mae’r gyfradd oroesi yn dilyn ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn llai na 5%, i gymharu â 10% yn Lloegr a 9% yn yr Alban*.

Mae St John Ambulance Cymru yn anelu at newid hynny trwy helpu aelodau o’r cyhoedd i ddysgu’r sgiliau syml a all helpu i achub bywyd os bydd argyfwng yn digwydd yn eu hymyl.

Eleni mae St John Ambulance Cymru yn canolbwyntio ar y themâu allweddol o CPR a defnyddio diffibriliwr, cymorth cyntaf plant a babanod, ymwybyddiaeth o gwympiadau a chymorth cyntaf iechyd meddwl.

Bob wythnos bydd yr elusen yn rhannu cyngor cymorth cyntaf allweddol gyda’r cyhoedd, yn ogystal â threfnu arddangosiadau am ddim mewn cymunedau ledled Cymru.

“Yma yn St John Ambulance Cymru rydym yn angerddol dros greu mwy o achubwyr bywydau yng Nghymru ac Achub Bywyd ym mis Medi yw un o’r ffyrdd niferus yr ydym yn gwneud hynny,” meddai Darren Murray, Pennaeth Gweithrediadau Cymunedol yr elusen.

“Gall cymorth cyntaf achub bywydau ac rydym eisiau i fwy o bobl ledled y wlad gael yr hyder i weithredu’n gyflym mewn argyfwng.

“Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu sesiwn arddangos am ddim ar gyfer eich ysgol, grŵp cymunedol neu glwb fel rhan o’r ymgyrch, yna cysylltwch â ni. Gall ein pobl o St John Ambulance Cymru eich arfogi â’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi eich ffrind, teulu neu gydweithiwr rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd.”

I gymryd rhan yn ymgyrch Achub Bywyd ym mis Medi, gallech drefnu arddangosiad am ddim, cofrestru ar gwrs e-ddysgu am ddim, ymuno ag un o gyrsiau hyfforddi gweithle ardystiedig St John Ambulance Cymru neu hyd yn oed wneud cyfraniad i ariannu gwaith hanfodol yr elusen.

Gallwch ddarganfod mwy am sut y gallwch chi gymryd rhan yn Achub Bywyd ym mis Medi trwy fynd i www.sjacymru.org.uk/save-a-life-september heddiw.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle