Rheilffordd Llanelli & Mynydd Mawr yn ennill cefnogaeth ar gyfer cynlluniau i adfer a meithrin coetir yng Nghynheidre

0
219
Woodlands image

Mae Rheilffordd Llanelli & Mynydd Mawr wedi derbyn cymorth gan y Grant Buddsoddi Mewn Coetir (TWIG). Mae’n cael ei gyflwyno gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Mae grant o £85,000 wedi’i ddyfarnu i helpu Rheilffordd Llanelli & Mynydd Mawr i symud ymlaen â chynlluniau i adfer y coetiroedd sydd o amgylch ei safle yng Nghynheidre ger Llanelli.

Woodlands image

Mae’r coetiroedd cymysg yng Nghynheidre wedi tyfu ar safle’r hen lofa, a fu unwaith yn un o’r mwyaf yn Ne Cymru. Ar hyn o bryd maent wedi gordyfu ac yn anhygyrch a byddant wedi aros fel hyn heb y grant hwn gan TWIG. Mae’r prosiect hwn hefyd yn golygu y bydd coetir Cynheidre yn dod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru yn y dyfodol.  

Bydd y prosiect a ariennir gan TWIG yn galluogi gwaith cadwraeth helaeth i ddigwydd, gan adfer cynefinoedd hanfodol a helpu rhywogaethau i fridio a ffynnu unwaith eto.

Bydd gwirfoddolwyr, grwpiau lleol ac ysgolion yn gallu cymryd rhan yn y prosiect trwy ddigwyddiadau a chyfleoedd hyfforddi, a thrwy hynny yn galluogi hyd yn oed mwy o bobl i fwynhau a chwarae rhan yn nhreftadaeth naturiol Sir Gaerfyrddin. Fe ddaw y coetir hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer addysg gyda chyfleusterau wedi’u cynnwys i gynnig ‘ysgol goedwig’ ymarferol.

Yn y tymor hir, bydd y prosiect yn datblygu sgiliau gwirfoddolwyr coetir, yn cryfhau’r rhwydwaith o grwpiau a sefydliadau sy’n cydweithio er budd natur ac yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd gofalu am ein byd naturiol.

Dywedodd Mark Thomas, cadeirydd Rheilffordd Llanelli & Mynydd Mawr: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y grant hwn. Diolch i’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy’r cynllun TWIG, gallwn nawr datblygu ein cynlluniau i ddiogelu ac adfer y coetiroedd o amgylch ein safle yng Nghynheidre a’u gwneud yn hygyrch i’n hymwelwyr.

Woodlands image

Pwy yw Rheilffordd Llanelli & Mynydd Mawr?

Mae Rheilffordd Llanelli & Mynydd Mawr yn elusen sy’n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr.  Ei nod yw addysgu’r cyhoedd am y rhan chwaraeodd Cynheidre yn niwydiannu De Cymru ac yn arbennig y diwydiant glo a chludo glo o’r pwll i’r porthladd, a datblygu’r safle yn barc treftadaeth a chynnal diwrnodau agored rheolaidd a digwyddiadau codi arian er budd pobl leol a’r cyhoedd. Creu atyniad twristaidd o’r radd flaenaf lle gellir dathlu’r hanes hwn a rhannu gwybodaeth er budd pawb.

Er mwyn cyrraedd ein nodau mae angen mwy o gymorth gwirfoddol arnom ym mhob adran gan gynnwys gweithredu, cynnal a chadw ac adfer, a gweinyddu. Os gallwch chi sbario ychydig oriau ar gyfer yr hyn sy’n hamdden mwyaf pleserus ac achos gwerth chweil, peidiwch ag oedi cyn cysylltu.  Am fwy o wybodaeth neu i wirfoddoli ewch i’n gwefan: https://www.llanellirailway.co.uk  neu tudalen Facebook: www.facebook.com/llanellirailway .

Woodlands Image

Beth yw’r Goedwig Genedlaethol?

Menter a arweinir gan Lywodraeth Cymru yw Coedwig Genedlaethol Cymru. Bydd yn creu rhwydwaith o goetiroedd a choedwigoedd sy’n hygyrch i’r cyhoedd ledled Cymru, o dan reolaeth ansawdd uchel.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn ymestyn ar hyd a lled Cymru, fel y gall pawb gael mynediad iddi ble bynnag y maent yn byw. Bydd yn cynnwys ardaloedd trefol a gwledig – gydag ymrwymiad cynnar i greu 30 o goetiroedd newydd.

Bydd yn darparu ystod enfawr o fuddion – a elwir yn wasanaethau ecosystem – i’r amgylchedd, yr economi a chymdeithas:

  • chwarae rhan bwysig wrth warchod natur a mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth
  • cynyddu cynhyrchiant pren a dyfir yn leol – galluogi’r diwydiant coedwigaeth lleol i ffynnu, creu swyddi a lleihau’r ddibyniaeth ar bren wedi’i fewnforio
  • cefnogi iechyd a lles cymunedau – enghraifft weithiol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Bydd y Goedwig Genedlaethol yn dod â phobl ynghyd, gyda’r rhan fwyaf o’r coetir yn cael ei blannu’n wirfoddol gan gymunedau, ffermwyr a thirfeddianwyr eraill ledled Cymru.
Woodlands image

Ynglŷn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru

Ein gweledigaeth yw i dreftadaeth gael ei gwerthfawrogi, gofalu amdani a’i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol. Dyna pam fel y cyllidwr mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU, rydym yn ymroddedig i gefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth, fel y nodir yn ein cynllun strategol, Treftadaeth 2033. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac yn dymuno ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.

Credwn yng ngrym treftadaeth i danio’r dychymyg, i gynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i adeiladu balchder mewn lle a chysylltiad â’r gorffennol. Dros y 10 mlynedd nesaf, ein nod yw buddsoddi £3.6biliwn a godwyd ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i wneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle