Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dathlu nifer o enwebiadau yng Ngwobrau Croeso 202

0
58
Capsiwn: Mae tîm Gweithgareddau a Digwyddiadau Awdurdod y Parc hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer eu digwyddiadau nodedig, gan gynnwys Rhyfeddodau Awyr y Nos a'r Daith Gerdded Fiofflworoleuol gyda'r Nos.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn falch o gyhoeddi bod un o’i atyniadau blaenllaw, Castell Caeriw, a’i dîm Gweithgareddau a Digwyddiadau ymroddedig wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau mawreddog yng Ngwobrau Croeso 2024. Mae’r gwobrau hyn, a drefnir gan Groeso Sir Benfro, yn cydnabod rhagoriaeth ar draws sectorau twristiaeth a lletygarwch y rhanbarth, gan dynnu sylw at fusnesau a sefydliadau sy’n cynnig profiadau arbennig i ymwelwyr.

Enillodd Castell Caeriw, a reolir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, y wobr am yr Atyniad Gorau am yr eildro yng Ngwobrau Croeso y llynedd, yn ogystal ag ennill y Wobr Twristiaeth Gynaliadwy. Eleni, mae yn y rownd derfynol mewn tri phrif gategori: Yr Atyniad Gorau, Bro a Byd (Amgylcheddol a Chynaliadwyedd), a’r Digwyddiad Gorau. Mae hon yn gamp arbennig i’r Awdurdod, sydd wedi gosod cynaliadwyedd a phrofiad ymwelwyr yn gyson wrth wraidd ei waith.

Capsiwn: Enillydd yr Atyniad Gorau yng Ngwobrau Croeso y llynedd, mae Castell Caeriw wedi cyrraedd y rhestr fer unwaith eto yn y categori hwn.

Mae un o brif ddigwyddiadau Castell Caeriw, TÂN! Lansio’r Fagnel Anferthol, wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr y Digwyddiad Gorau. Mae’r digwyddiad unigryw hwn, sy’n dod â rhyfela canoloesol yn fyw, yn cynnwys yr unig fagnel sy’n gweithio yng Nghymru ac fe ddenodd torfeydd brwdfrydig o bell ac agos dros fisoedd yr haf. Yn dilyn sgwrs gan hanesydd arbenigol ar ei hanes a’i fecaneg hynod ddiddorol, caiff cyfres o dafluniadau anarferol – gan gynnwys bresych, rwdan, ac, yn fwyaf cofiadwy, melon dŵr anferthol – eu catapyltio tuag at bwll y Felin Heli, gan ddiddanu’r gynulleidfa.

Yn rhyfedd ddigon, bydd Castell Caeriw yn cystadlu yng nghategori’r Digwyddiad Gorau yn erbyn digwyddiadau eraill a drefnir gan dîm Gweithgareddau a Digwyddiadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – digwyddiad Rhyfeddodau Awyr y Nos yng Nghastell Henllys a’r Daith Gerdded Fiofflworoleuol gyda’r Nos yng Nghoedwig Pengelli.

Capsiwn: Digwyddiad gwefreiddiol Castell Caeriw, TÂN! Lansio’r Fagnel Anferthol wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Digwyddiad Gorau, gan swyno cynulleidfaoedd yr haf gyda’i ail-greu canoloesol dramatig.

Fel rhan o Wythnos Awyr Dywyll Cymru, cyfunodd digwyddiad Rhyfeddodau Awyr y Nos gyfle i syllu ar sêr ac adrodd straeon o amgylch tân, gyda’r cyfarwydd lleol Alice Courvoisier yn rhannu hen chwedlau am y sêr. Yn ystod y Daith Gerdded Fiofflworoleuol gyda’r Nos, dan arweiniad Reveal Nature a’r Ceidwad Richard Vaughan, cafodd y cyfranogwyr eu tywydd trwy Goedwig Pengelli gan ddefnyddio tortshys UV i ddangos harddwch fflwroleuol y coetir hynafol hwn a chreaduriaid y nos. Cefnogwyd y ddau ddigwyddiad gan Swyddog Awyr Dywyll yr Awdurdod, Jamie Taylor.

Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Rydym wrth ein bodd o gael ein cydnabod am ein hymdrechion i gynnig profiadau o’r radd flaenaf i ymwelwyr sy’n tynnu sylw at harddwch naturiol unigryw a threftadaeth gyfoethog Sir Benfro. Boed yn fagnel ganoloesol yng Nghastell Caeriw neu’n rhyfeddodau yn ein digwyddiadau Awyr Dywyll, mae’r Parc Cenedlaethol bob amser yn cynnig rhywbeth newydd a chyffrous i ymwelwyr o bob oed. Mae’r enwebiadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu gweithgareddau deniadol, cynaliadwy sy’n gwneud Sir Benfro yn gyrchfan wirioneddol arbennig ar hyd y flwyddyn.”

Cynhelir seremoni Gwobrau Croeso 2024 ddydd Mercher, 30 Hydref, yng Ngholeg Sir Benfro, lle cawn wybod pwy fydd yr enillwyr a lle caiff prif gyfranwyr Sir Benfro at dwristiaeth a chynaliadwyedd eu dathlu.

I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau ledled y Parc Cenedlaethol dros y misoedd nesaf, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here