Staff GTACGC yn cwblhau Her Tri Chopa Cymru!

0
65

Ddydd Sadwrn, 7 Medi, cymerodd 14 aelod o staff Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran yn Her Tri Chopa Cymru, gan gyrraedd copaon Pen y Fan, yr Wyddfa a Chader Idris o fewn 24 awr.

Gyda chymysgedd o staff gweithredol a staff eraill, roedd yr her yn golygu cerdded am bellter o 17 milltir ac esgyniad o 2,334 metr, i gyd er mwyn codi arian hanfodol ac ymwybyddiaeth ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân a Swyn y Gwynt – Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Profodd yr her eu galluoedd ac er sawl rhwystr, cwblhaodd y tîm cyfan yr her mewn amser clodwiw o 17 awr ac maent wedi codi £789 ar gyfer eu dewis elusennau.

Fe wnaeth y diffoddwr tân Josh Herman wthio’r her gam ymhellach drwy wisgo cit diffodd tân llawn ac offer anadlu ar ei gefn am y daith gyfan!

Dywedodd y diffoddwr tân Josh Herman:

“Roedd yr her yn anodd yn feddyliol ac yn gorfforol, ac roedd ei chwblhau mewn llai na 24 awr yn gamp enfawr i mi ac aelodau eraill y tîm.

Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod yr her; diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at elusen sy’n agos at fy nghalon a diolch enfawr i’m dyweddi am ei help a’i hanogaeth i daclo’r rhwystrau meddyliol a wynebais yn ystod yr her.

Rwy’n gobeithio, drwy wneud yr her hon, fy mod wedi codi mwy o ymwybyddiaeth am ‘Iechyd Meddwl Dynion’ ac wedi ysbrydoli eraill i ddechrau siarad ac estyn allan am gymorth pan fydd ei angen arnynt.”

 

Josh Herman-2

 

Da iawn i bawb a gymerodd ran.

Os hoffech gyfrannu a dangos eich cefnogaeth, ewch i:  Mid and West Wales Fire and Rescue Service Fire Service is fundraising for Hywel Dda Health Charities (justgiving.com)


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here