Llaethdy mwyaf Cymru yn croesawu elusen Tuk-Tuk sy’n cael ei rhedeg gan gyd-laethdy o Loegr

0
46

Mewn ymgais i godi arian ar gyfer BBC Plant Mewn Angen, mae sylfaenwyr Millbrook Dairy, David Evans a Kevin Beer, yn gyrru Tuk-Tuk wedi’i addurno â darn anferth o gaws o’u pencadlys yn Bideford, Dyfnaint i Ynysoedd Erch yn yr Alban, gan deithio 1,600 o filltiroedd a stopio 29 gwaith ar hyd y ffordd.

Un stop arbennig yng Nghymru oedd ymweld â llaethdy cydweithredol mwyaf y wlad, Hufenfa De Arfon, ym Mhwllheli ar ddydd Sul 15 Medi.

 

Dywedodd Shôn Jones o Hufenfa De Arfon, “Roedd eu gwylio nhw’n cyrraedd yn olygfa wych. A hwythau’n feistri graddio caws, cawson nhw gyfle i gwrdd â’n tîm, blasu ein cawsiau, a rhannu ein hangerdd am gynnyrch llaeth o ansawdd uchel.

 

“Mae’n her fawr ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw ar weddill eu taith i’r Ucheldiroedd. Siwrne saff!”

 

Dywedodd Kevin Beer, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Cwmni Llaeth Millbrook, “Roedd hi’n wych ymweld â Hufenfa De Arfon – am ran hyfryd o’r byd.

 

“Y stori tu ôl i’n taith yw ei bod hi’n bumed pen-blwydd arnon ni eleni, ac roedden ni eisiau gwneud rhywbeth gwahanol i allu rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymdeithas – dyna’r rheswm tu ôl i’n syniad Tuk-Tuk gwallgof!

 

“Mae ein Tuk-Tuk yn hawdd ei adnabod. Yn ogystal â chodi arian ar gyfer BBC Plant Mewn Angen, rydyn ni’n awyddus i gael ychydig o hwyl felly bydden ni wrth ein bodd i bobl gymryd rhan a rhannu eu lluniau ar ein cyfryngau cymdeithasol os ydyn nhw’n gweld y Tuk-Tuk. Ni yw @millbrookdairy ar Instagram #TukTukChallenge.

 

“Yn ogystal â chodi arian at achos gwych, rydyn ni’n blasu cawsiau anhygoel ar hyd y ffordd gan gynhyrchwyr gorau’r DU. Rydyn ni’n mwynhau pob eiliad, er ei fod wedi gwneud i ni werthfawrogi’r cysur rydyn ni i gyd yn ei gymryd yn ganiataol yn ein cerbydau arferol. “

 

Ychwanegodd David Evans, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Millbrook Dairy Company, “Hyd yn hyn, rydyn ni wedi codi dros £10,000 ar gyfer Plant Mewn Angen sy’n elusen anhygoel sy’n helpu ariannu miloedd o brosiectau ym mhob cornel o’r DU. Mae ein teulu a’n ffrindiau eisoes wedi ein noddi, ac mae rhai o’n cyflenwyr a’n cwsmeriaid gwych wedi ein cefnogi hefyd, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y codi arian yn parhau i dyfu drwy gydol ac ar ôl ein taith. Os hoffech ein noddi, ein tudalen JustGiving yw: https://bit.ly/MillbrookTukTukChallenge.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here