Ymunwch â’r Penwythnos Gwirfoddoli Mawr ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a gwneud gwahaniaeth

0
36
Capsiwn: Cynhelir Diwrnod Gwirfoddoli Cyhoeddus yn Nwyrain Freshwater ddydd Sadwrn 21 Medi.

I ddathlu cyfraniadau anhygoel gwirfoddolwyr ac i ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn edrych ymlaen at gynnal Diwrnod Gwirfoddoli Cyhoeddus yn Nwyrain Freshwater fel rhan o Benwythnos Gwirfoddoli Mawr y Parc Cenedlaethol ddydd Sadwrn, 21 Medi.

Capsiwn: Cynhelir Diwrnod Gwirfoddoli Cyhoeddus yn Nwyrain Freshwater ddydd Sadwrn 21 Medi.

Rhwng 10am a 3pm, gwahoddir cyfranogwyr o bob oed a gallu i ymuno â gweithgareddau cadwraeth ymarferol yn Nwyrain Freshwater. Bydd gwirfoddolwyr yn cael cyfle i glirio rhywogaeth oresgynnol helygen y môr, gwella mynediad i’r traeth, ymuno â grŵp casglu sbwriel, a dysgu sut mae adnabod a chofnodi gwenyn a glöynnod byw. Mae’r digwyddiad hwn yn ffordd ymarferol o ymgysylltu â natur a chefnogi ymdrechion cadwraeth yn y dirwedd arfordirol drawiadol yma.

Dywedodd Rebecca Evans, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o helpu i ofalu am dirweddau anhygoel ein Parciau Cenedlaethol yn ogystal â threulio amser yn yr awyr agored, dysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl arbennig. Mae’n gwneud lles i unigolion a’r amgylchedd fel ei gilydd, gyda’r ddau’n elwa o’r ymdrech.

“Byddem wrth ein bodd pe bai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn dod i gymryd rhan a helpu i warchod y lleoedd hardd hyn. Gallwch ymuno am ddiwrnod neu gofrestru i wneud mwy – beth bynnag fo’ch cyfraniad, bydd yn cael effaith barhaol.”

I gofrestru eich diddordeb ac i ddysgu mwy am y digwyddiadau, anfonwch neges e-bost at volunteering@pembrokeshirecoast.org.uk.

Mae rhagor o wybodaeth am wirfoddoli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/gwirfoddoli/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here