Naid am Nawdd yn codi dros £4,000 ar gyfer uned cemo

0
159
Yn y llun uchod: Owain Jenkins, Lisa Hurcombe a Hayley Jenkins gyda staff o'r Uned Ddydd Cemotherapi

Bu Owain Jenkins, Lisa Hurcombe a Hayley Jenkins yn nenblymio 13,000 troedfedd i gefnogi’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais a oedd yn darparu gofal a thriniaeth i aelod o’r teulu, Gareth Jenkins. 

Cymerodd y triawd ran yn y naid ym Maes Awyr Hinton yn Brackley, Lloegr ar 8 Hydref 2023 gan godi swm anhygoel o £4,267.95 i’r Uned, lle cafodd Gareth ofal gwych. 

Yn anffodus collodd Gareth ei frwydr gyda chanser ar 14 Chwefror 2024. 

Dywedodd Hayley Jenkins: “Fe benderfynon ni wneud y naid i godi arian i’r uned cemotherapi yn Aberystwyth oherwydd cafodd fy nhad, Gareth, ddiagnosis o ganser y brostad cam 4 yn 2022. Cafodd ofal a thriniaeth wych yn yr uned ac roedd y staff yn mor gefnogol.

“Cafodd nifer o sesiynau cemo ac roedd mor hapus ac mewn sioc pan ddywedon ni wrtho ein bod ni’n codi’r arian yma yn ei enw. Pan wnaethom osod y ddolen ar gyfer rhoddion, roeddem i gyd wedi ein syfrdanu gan gefnogaeth ei holl ffrindiau, ei deulu a phawb oedd yn ei adnabod.

“Fe ymladdodd y canser bob cam o’r ffordd ac roedd yn benderfynol o ddod i’n cefnogi ar y diwrnod yr aethom i wneud y naid. Roeddem yn ddigon ffodus ei fod yn ddigon iach i ddod. Roedd yn ddiwrnod braf, heulog a thawel. Roedd yn braf i ni gyd fod gyda’n gilydd yn gwneud rhywbeth hwyliog dros achos da. Roedd yn fwy arbennig fyth gyda Dad yno, er iddo gyfaddef ei fod yn nerfus yn gwylio ei deulu yn neidio o awyren!

“Roedd yn falch iawn o’r hyn wnaethon ni a faint o arian yr oedden ni wedi’i godi. Pan gawsom wybod nad oedd hir ganddo i fyw ym mis Ionawr 2024, roedd am wneud yn siŵr bod pawb a roddodd yn gwybod faint roedd yn gwerthfawrogi pob ceiniog a roddasant. Dydw i ddim yn meddwl ei fod wedi sylweddoli cymaint yr oedd yn ei olygu i bawb tan y cyfanswm terfynol. 

“Rydym wedi ein syfrdanu gan y rhoddion. Roedd fy nhad yn berson caredig iawn gyda llawer o ffrindiau oedd eisiau helpu. Diolch i bawb a’n cefnogodd a pawb a gyfrannodd, pawb sydd wedi ein cefnogi ers i Dad golli ei frwydr. Byddwn yn ddiolchgar am byth am bopeth y maent wedi’i wneud. Hoffem ddiolch yn arbennig i Tracy Jenkins am y gefnogaeth a ddangosodd i Dad a ni fel teulu trwy gydol ei frwydr.” 

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian: “Hoffem ddweud diolch i Owain, Lisa a Hayley am ymgymryd â’r her i godi arian ar gyfer yr uned cemo. 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.” 

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle