Codwr arian dewr i ddringo i Wersyll Sylfaenol Mount Everest ar gyfer y GIG lleol

0
132
Pictured above: Leigh Hughes

 

Bydd Leigh Hughes yn ymgymryd â her epig 12 diwrnod ym mis Ebrill 2025 trwy ddringo i Wersyll Sylfaenol Mount Everest i godi arian ar gyfer Gwasanaeth Diabetig Hywel Dda. 

Bydd Leigh, sy’n wreiddiol o Gydweli ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn ymuno â grŵp o ffrindiau ar y daith a’i nod yw codi dros £20,000 ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau elusennol.

Bydd y grŵp yn esgyn o Kathmandu, sydd tua 2,860 metr uwchben lefel y môr, i uchder Gwersyll Sylfaen Everest, yn sefyll ar 5,364 metr, cynnydd fertigol o dros 1,500 metr.

Dywedodd Leigh: “Mae fy mrawd a dwy nith wedi cael gofal a monitro gan Wasanaeth Diabetig Hywel Dda ers eu bod yn ifanc iawn, ar ôl datblygu diabetes Math 1.

“Mae triniaeth diabetes wedi datblygu’n sylweddol; fodd bynnag, mae cryn dipyn i’w wneud o hyd, a bydd unrhyw roddion yn mynd tuag at waith parhaus yr Uned Diabetig yng Nghaerfyrddin.” 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Leigh am ddewis codi arian ar gyfer yr Uned Diabetig. Edrychwn ymlaen at eich cefnogi ar eich taith! 

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.” 

Gallwch gefnogi ymgyrch Leigh yma: https://www.justgiving.com/page/leigh-hughes-1724511311522?utm_campaign=lc_frp_share_transaction_fundraiser_page_launched&utm_content=924888bd-461e-4c6e-b761-13009e24a9e3&utm_medium=email&utm_source=p 

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle