Diwygiadau i’r system trethi lleol yng Nghymru yn dod yn gyfraith

0
33
First Minister Eluned Morgan at Sealing Ceremony for Local Government Finance (Wales) Act

Mae mesurau i ddiwygio’r system trethi lleol yng Nghymru, gan gynnwys ardrethi annomestig a’r dreth gyngor, wedi dod yn gyfraith, gan fod Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) wedi cael sêl swyddogol.

Mae’r ddeddfwriaeth newydd, a basiwyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf, yn sefydlu cyfres o newidiadau i wella’r systemau trethi. Bydd yn eu gwneud yn decach ac yn sicrhau eu bod yn gweithio’n well ar gyfer anghenion Cymru yn y dyfodol, gan sicrhau bod trethi lleol yn cyd-fynd yn fwy cyson ag amgylchiadau economaidd.

Mae wedi cyflwyno newidiadau pwysig i’r system trethi lleol ac wedi creu fframwaith ar gyfer Cymru fodern, gan ddarparu’r dulliau angenrheidiol o addasu trethi lleol yn y dyfodol, wrth i amgylchiadau a blaenoriaethau newid.

Yn y seremoni selio, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:

“Mae ymchwil a phrofiad helaeth, yn enwedig yn ystod pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi dangos bod angen i’n systemau trethi lleol fod yn fwy hyblyg fel y gallwn ymateb i’r amodau newidiol sy’n wynebu pobl a busnesau.

“Rwy’n falch bod Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn darparu’r fframwaith sydd ei angen arnom i foderneiddio ein trethi annomestig a’n systemau treth gyngor yn y dyfodol. Mae trethi lleol yn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel ysgolion a gofal cymdeithasol, y mae pob un ohonom yn cael budd enfawr ohonynt.

“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith gyda’r Ddeddf bwysig hon, yn enwedig llywodraethau lleol, a sefydliadau sy’n cynrychioli aelwydydd a busnesau.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here