Hoffai ddisgyblion ac athrawon mewn ysgol bentref ddiolch i Goleg Cambria am rodd hael.

0
39
Rrofft School

Mae Mike Ward, darlithydd Gwaith Saer ac Asiedydd ar safle Ffordd y Bers Cambria yn Wrecsam, wedi treulio blynyddoedd yn dylunio ac adeiladu dodrefn, planwyr, siediau a rhagor ar gyfer addysgwyr ar draws yr ardal.

Tro Ysgol y Rofft ym Merffordd oedd hi’r tro yma, sydd gydag amgylchedd i blant meithrin a derbyn archwilio a dysgu yn yr awyr agored, diolch i’r tiwtor a’i fyfyrwyr. 

Rrofft School

Mae Mike wedi creu ystafell ddosbarth gyda seddi, gasebo, cysgodfa, ardal ddarllen, llwyfan, byrddau gweithgareddau ar gyfer yr uned cymorth dysgu ac amrywiaeth o gyfleusterau pren. Mae’r staff a’r plant yn falch iawn o’u cael nhw. 

“Dyma rai o’r ychwanegiadau diweddaraf ac mi wnaethon ni adeiladu sawl peth y llynedd, gan gynnwys wigwams, ffensys a sied, felly dyma oedd ail gam y prosiect,” meddai.

“Roedd hi’n bleser gallu helpu gan fod dysgu yn yr awyr agored mor bwysig – Dwi’n falch eu bod nhw’n ei hoffi a dwi’n gobeithio y bydd y plant yn mwynhau eu gwersi yn yr ardal awyr agored newydd yma.”

Rrofft School

Gwnaeth Emma Roberts sy’n athrawes yn yr ysgol ddiolch i Mike a’r coleg am eu help dros y blynyddoedd.

“Mae’r plant, staff a’r rhieni yn Ysgol y Rofft wrth eu bodd gyda’r cymorth rydyn ni wedi’i gael gan Goleg Cambria wrth iddyn nhw ein helpu ni i ddatblygu ein hamgylcheddau dysgu yn yr awyr agored,” meddai Emma.

“Maen nhw wedi trawsnewid y lle ac wedi dod â syniadau’r plant yn fyw!”

Rrofft School

Ychwanegodd hi: ” Heb eu cymorth nhw fydden ni byth wedi gallu darparu’r strwythurau mawr mae’r plant wedi gofyn amdanyn nhw ac yn eu defnyddio bob dydd erbyn hyn. 

“Rydyn ni’n teimlo’n lwcus iawn o fod wedi cael y cyfle i fanteisio ar sgiliau’r tiwtoriaid a’r myfyrwyr anhygoel yng Ngholeg Cambria, mae gennym ni ddarpariaeth arbennig i’r plant allu datblygu ystod eang o sgiliau llythrennedd, rhifedd a sgiliau sy’n seiliedig ar bynciau.

Rrofft School

“Rydyn ni’n gobeithio parhau’r bartneriaeth i ehangu ein hamgylcheddau dysgu awyr agored ar draws ein hadrannau dilyniant, a fydd hefyd yn rhoi cyfle i’w dysgwyr ddefnyddio’r sgiliau maen nhw wedi’u dysgu yn y coleg mewn amgylchedd go iawn – maen nhw wedi gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn y gymuned.”

Prosiect nesaf Ysgol y Rofft fydd gegin yn yr ardd, ac mae Mike a’r tîm yn brysur yn gwneud planwyr yn barod ac yn meddwl am syniadau ffres ar gyfer yr ardal.

Rrofft School

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria.

I ddarganfod rhagor am Ysgol y Rofft, ewch i’r wefan: Ysgol y Rofft.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here