Hen glasur o Gymru ar ei newydd wedd: Cariad, Colled, Hud a Lledrith yn Nhirwedd Cymru. Y Llyn yn dod i Lanelli a Rhydaman.

0
269

Bydd chwedl Gymreig yn cael ei hail-greu ar lwyfan wrth i Y Llyn gyrraedd Y Ffwrnes, Llanelli ar ddydd Mercher 16 Hydref am 7:30pm, a’r Glowyr, Rhydaman ar ddydd Iau 17 Hydref am 7:30pm. Mae Y Llyn yn berfformiad cerddorol a dawns sydd wedi’i ysbrydoli gan chwedl Llyn y Fan Fach, a chaiff y stori ei hadrodd yn y Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd, gyda dehongliad BSL gan Cathryn McShane. Bydd y stori am gariad, colled, hud a lledrith yn nhirwedd Cymru yn dod yn fyw ar y llwyfan yn y fersiwn newydd sbon hon o’r hen glasur.

Gan ddilyn blaenwelediad hynod o lwyddiannus yng Ngŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border rydym yn falch dweud ein bod ni wedi ennill grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn teithio’r sioe ganmoladwy hon. Michael Harvey yw cyfarwyddwr y cwmni newydd sbon BANDO! Mae’r cwmni yn dod ag artistiaid o gelfyddydau gwahanol at ei gilydd er mwyn i siaradwyr rhugl, dysgwyr a’r di-gymraeg cael mwynhau’r sioe ac yn ymdrochi yn y perfformiad heb gyfieithiad allanol. 

Y mae BANDO! yn gwmni newydd sbon gyda Michael Harvey wrth y llyw ac yn dod ac artistiaid o gelfyddydau eraill er mwyn creu profiad adrodd straeon newydd sbon. Perfformiwyd gyda cherddoriaeth, dawns ac yn defnyddio’r Gymraeg a Saesneg ochr yn ochr er mwyn i creu profiad chwedleua newydd sbon. 

Bydd chwedleuwr Michael Harvey gyda cherddor Stacey Blythe a dawnswraig Eeva-Maria Mutka yn creu profiad adrodd straeon sydd yn cyd-blethu’r Gymraeg, Saesneg, cerddoriaeth a  gwaith corff am yr un pryd.

Y mae’r chwedl hon yn tarddu o’r Bannau Brycheiniog. Roedd dyn ifanc yn arfer gwarchod eu defaid a’u gwartheg wrth syllu ar y llyn a dychmygu ei ddyfodol. Stori serch brydferth am hud, lledrith a’r ferch hudolus o’r llyn.

Dywedodd Michael Harvey, “I knew from working with Stacey that storytelling and music were a fit. I had already discovered that Welsh/English bilingual telling worked and from working with Eeva-Maria I knew that the body and storytelling were a dynamic combination. What would happen if we put them all together? We premiered at Beyond the Border, it went down a storm and soon we’ll be on tour!” 

Peidiwch â phoeni os dych chi ddim yn siarad Cymraeg. Roedd ein cynulleidfa gyntaf  yn gymysgedd o Gymry Cymraeg a’r di-gymraeg ac roedd pawb yn gallu dilyn y sioe ac roeddynt wrth eu boddau peidio defnyddio offer cyfieithu.

Dyma ddim ond casgliad cyfyng o’r ymatebion cawson ni ar ôl y blaenwelediad yn 2021:

“Dyma oedd uchafbwynt Gŵyl Chwedleua Beyond the Border i fi. Roedd ‘na gyd-blethu go iawn rhwng y perfformwyr a greodd fin i’r chwedl atseiniol hon a daeth yr hanes i mewn i’n cyrff mewn fordd drydanol a theimladwy.”

Gyda dehongliad BSL gan Cathryn McShane a gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. 

Mae tocynnau ydy £12.50 (£10.50 consesiynau) a gellir archebu tocynnau ar-lein yn www.theatrausirgar.co.uk neu gyda’n swyddfa docynnau ar 0345 2263510


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle