Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda dibynadwyedd a phrydlondeb ei wasanaethau dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR).
Mae data newydd ar gyfer y cyfnod Ebrill i Fehefin 2024 yn dangos bod TrC wedi gwella’r mwyaf o unrhyw gwmni trenau yn y DU ar gyfer prydlondeb (gwelliant +8.1%) a dibynadwyedd (canslo wedi gostwng 3.2%), o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2023.
Mae TrC hefyd ar frig y rhestr am y newid mwyaf mewn trenau sydd wedi’u cynllunio, gyda chynnydd o 26.7% yn nifer y trenau a gynlluniwyd rhwng Ebrill a Mehefin eleni o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Mae ffigurau ychwanegol a ryddhawyd yn ddiweddar gan Transport Focus yn nodi gwelliant arall o ran boddhad cyffredinol cwsmeriaid â gwasanaeth rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, sef 88% (28 Mehefin – 15 Medi 2024) – cynnydd o 16% mewn 12 mis.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Mae cyflwyno ein fflyd o drenau newydd sbon gwerth £800m yn barhaus wedi helpu i wella dibynadwyedd, prydlondeb a chapasiti ar draws y rhwydwaith.
“Rydym hefyd wedi cwblhau peth o’r gwaith peirianneg mwyaf arwyddocaol ar Linellau Craidd y Cymoedd fel rhan o’n gwaith o ddarparu Metro De Cymru, sydd wedi lleihau’r angen am wasanaethau bws yn lle trenau.
“Yn ogystal â’r perfformiad gwell, rydym wedi ychwanegu mwy o wasanaethau ledled Cymru ar lwybrau gan gynnwys Wrecsam – Bidston, llinell Glyn Ebwy a Chaerdydd – Cheltenham, i roi mwy o opsiynau teithio i’n cwsmeriaid.
“Rydyn ni’n gwybod bod gwelliannau i’w gwneud o hyd gyda’n gwasanaethau ond gyda mwy o drenau newydd ac amlder gwasanaeth gwell yn dal i ddod dros y blynyddoedd nesaf, rydyn ni’n gwneud yr hyn sydd ei angen i sicrhau gwelliannau pellach i’n cwsmeriaid.”
Am ragor o wybodaeth am Trafnidiaeth Cymru, ewch i https://newyddion.trc.cymru/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle