Arweinydd Plaid Cymru yn gosod ei olwg ar lywodraeth gyda gweledigaeth ar gyfer Cymru iachach

0
486
By Sinn FĂŠin - https://www.flickr.com/photos/sinnfeinireland/53567554935/, CC BY 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=146062205

Arweinydd Plaid Cymru yn addo llywodraeth fydd yn mynd i’r afael a problemau yn syth gyda gweledigaeth ar gyfer newid hirdymor o Gymru iachach, gyfoethocach

Heddiw, bydd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS yn annerch Cynhadledd Flynyddol ei blaid yng Nghaerdydd, gan feirniadu 25 mlynedd o arweinyddiaeth Llafur ac amlinellu ei weledigaeth ar gyfer Cymru iachach a chyfoethocach.

Bydd Rhun ap Iorwerth AS yn nodi ymrwymiad Plaid Cymru i “dorri’r cylch” o feddwl tymor byr sy’n gadael Cymru i lawr. Ar faterion allweddol megis yr economi, addysg ac iechyd, bydd yn addo gweithredu i roi gwelliant ar waith ar unwaith gan nodi’r angen am newid tymor hir hefyd sydd ei ddirfawr ei angen ar Gymru.

Ym maes iechyd mae hynny’n golygu addewid y bydd gwariant ar fesurau iechyd ataliol yn cynyddu bob blwyddyn o dan Lywodraeth Plaid Cymru.

Fe fydd hefyd yn cyhoeddi y byddai Cabinet Plaid Cymru yn cynnwys Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, “gan sicrhau cenhadaeth wirioneddol genedlaethol o greu bywydau iachach sydd yn ei dro yn sicrhau arbedion sylweddol.”

Wrth ddisgrifio’r gwasanaeth iechyd fel un sydd “wedi ei eni ar wyliadwriaeth Llafur” gydag addewid o “ailenedigaeth o dan lywodraeth Plaid Cymru” mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth AS ddweud:

“Bydd fy llywodraeth yn torri’r cylch o feddwl tymor byr sy’n gadael Cymru i lawr.

Yn wahanol i Eluned Morgan, byddaf yn cydnabod bod rhai pethau wedi torri ond yn bwysicach fyth byddaf yn benderfynol nad oes dim byd y tu hwnt i’w drwsio.

Ni fydd fy llywodraeth yn ystyried materion ar eu pen eu hunain. Nid yw gweithio mewn seilo yn helpu neb pan fydd un penderfyniad mor aml yn effeithio ar un arall.

Bydd angen gwelliannau mawr mewn cyrhaeddiad addysg i ddatgloi ein potensial economaidd, ond sylfaen arall ar gyfer economi iach yw Cymru iach – ei phobl sy’n weithgar o ran corff a meddwl.

Eleni, wrth i restrau aros dyfu – fe wnaeth Llafur am ryw reswm anesboniadwy dorri’r swm y mae’n ei wario ar bolisïau iechyd ataliol.

Gyfeillion, meddwl tymor byr yw hwn gyda phoen hirdymor yn siwr o ddilyn. Mae’n bwydo’r broblem yn hytrach na’i datrys, gan roi rhagor o bwysau ar staff rheng flaen, gan lenwi ein hysbytai â chleifion sy’n sâl fyth.

Bydd Plaid Cymru yn gwrthdroi’r math hyn o feddylfryd, gan sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn addas ar gyfer dathliadau ei ganmlwyddiant a thu hwnt.”

Bydd arweinydd y Blaid yn lansio agwedd newydd at iechyd ataliol fel rhan o newidiadau ehangach i’r gwasanaeth iechyd drwy ddweud:

“Ers gormod o amser, rheoli poen pobl fu blaenoriaeth Llafur ond rwyf am gadw pobl yn iach a gallaf gyhoeddi yn ystod 100 diwrnod cyntaf llywodraeth Plaid Cymru y byddwn yn cyflwyno cyllideb newydd – yn seiliedig ar egwyddorion o Gymru iachach, gyfoethocach – gydag addewid y bydd gwariant ar fesurau iechyd ataliol yn cynyddu bob blwyddyn.

Dim mwy o blastr i guddio problemau, dim mwy o feio’r unigolyn, dim mwy o wrthod bod yn atebol.

Llywodraeth aeddfed fydd unPlaid Cymru – un fydd yn – cymryd cyfrifoldeb, grymuso pobl ac amddiffyn y gwasanaeth iechyd.

Ac mae gennym dasg enfawr o’n blaenau. O ran gwella ystâd y gwasanaeth iechyd, awn ymhellach na’r 8 Gweinidog Iechyd Llafur diwethaf, gan glirio’r Ă´l-groniadau o waith cynnal a chadw brys dros gyfnod tymor nesaf y Senedd. Dim ond yr wythnos hon, cyhoeddwyd digwyddiad tyngedfennol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr oherwydd difrod hirdymor difrifol i’w do. Mae’n rhaid i ni gael ystâd gwasanaeth iechyd sy’n addas at y diben.

Byddwn yn cyflwyno contract canser â ffocws o safbwynt targedau ar gyfer pob claf – gan ddiwygio trefniadau llywodraethu’r GIG, gan ddod â safonau yn ôl lle y dylent fod a rhestrau aros i lawr.

A chyda Gweinidog Iechyd y Cyhoedd newydd, byddwn yn rhoi’r ‘G’ yn ôl yn y GIG – gan sicrhau cenhadaeth wirioneddol genedlaethol o greu bywydau iachach sydd yn ei dro yn sicrhau arbedion sylweddol.

Ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol ryda ni gyd mor falch ohono – wedi’i eni ar wyliadwriaeth Llafur, yn cael ei haileni gan lywodraeth Plaid Cymru dan f’arweiniad i.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle