Gweithdy i helpu staff mamolaeth i gefnogi teuluoedd sydd colli babi

0
64
Babyloss workshop.

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu gweithdy i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli babi ar gyfer staff mamolaeth yn Ysbyty Glangwili.

 Bydd y gweithdy yn helpu staff i ddarparu’r cymorth i deuluoedd sydd wedi dioddef colled beichiogrwydd neu golli babi.

Dywedodd Anwen Evans, Bydwraig Profedigaeth: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod rhoddion elusennol wedi galluogi ein staff i gymryd rhan yn y gweithdy. 

“Mae staff o fewn gwasanaethau mamolaeth yn darparu gofal i rieni sy’n profi colli babi. Roedd y gweithdy yn gyfle gwych i adeiladu ar yr hyder, y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gofal o ansawdd uchel i’r rhai sydd wedi profi marwolaeth eu babi.” 

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.” 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here