Dawns elusennol yn codi dros £25,000 er budd Apêl

0
557

Mae dawns elusennol, raffl ac arwerthiant wedi codi swm gwych o £25,300 ar gyfer Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip.

Trefnwyd y digwyddiad gan y cyfneitherod Lowri Elen Jones, 20, o Beniel yn Sir Gaerfyrddin, a Lisa Ann Evans, 22, o Langybi yng Ngheredigion, ac fe’i cynhaliwyd yn Neuadd Bronwydd, Caerfyrddin ym mis Mehefin.

Bu Heather Price, un o weithwyr lleol Bancio Busnes Barclays, yn garedig iawn yn cefnogi’r digwyddiad. Mae’r cyfanswm a godwyd yn cynnwys rhodd o £1,000 mewn arian cyfatebol gan Barclays.

Penderfynodd Lowri a Lisa drefnu’r digwyddiad er budd yr Apêl gan fod eu taid, Hywel Griffiths, wedi bod yn glaf ar Ward Bryngolau, uned iechyd meddwl oedolion hŷn 15 gwely.

Dywedodd Lowri: “Mae’r achos teilwng hwn yn agos iawn at ein calonnau fel teulu. Penderfynwyd cynnal dawns i godi arian at yr Apêl i ddangos ein gwerthfawrogiad a’n diolchgarwch i’r ward.

“Mae fy Nhad-cu yn gyn-ffermwr, felly mae wedi arfer â’r holl awyr iach a bod allan ym mhob tywydd.

“Yn ôl ym mis Awst 2023, cafodd ei symud i Ward Bryngolau. Siomedig oedd gwybod nad oedd y man awyr agored yn addas ar gyfer y cleifion, o gofio pa mor bwysig yw fitamin D i’n hiechyd meddwl, heb sôn am glaf sydd mewn gofal i wella eu hiechyd meddwl. Bydd y gerddi hyn o fudd i bob claf ar y ward beth bynnag fo’u cefndir.

“Gwerthodd y tocynnau allan mewn llai nag wythnos ar ôl i ni eu rhyddhau. Roeddwn i a Lisa wedi ein syfrdanu gan faint o ddiddordeb a chefnogaeth a gawsom gan ffrindiau.

“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb, gan gynnwys yr holl fusnesau lleol, a gefnogodd y digwyddiad a’i wneud yn gymaint o lwyddiant. Rydym wrth ein bodd gyda’r swm a godwyd gennym!”

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym wedi cael ein syfrdanu gan waith codi arian Lowri a Lisa ar gyfer yr Apêl ac rydym am ddiolch yn fawr iawn iddynt am eu gwaith caled a’u hymroddiad anhygoel, ac i bawb a fynychodd ac a gefnogodd y digwyddiad.

“Bydd y cyfanswm gwych a godwyd gan y ddawns yn hwb enfawr i’r Apêl, ac rydym nawr hyd yn oed yn nes at gyrraedd ein targed.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle