Mae Martin Nicholls, goroeswr canser o Abertawe, wedi ymuno â Gwasanaeth Gwaed Cymru i lansio ymgyrch newydd sbon i annog sefydliadau ar draws Cymru i achub bywydau.
Nod yr ymgyrch newydd Gwnewch Waedyn Fusnesi Chi ydy cau’r bwlch ar y 10,000 o roddion o fusnesau sydd yn cael eu colli bob blwyddyn yn dilyn y pandemig, a’r cynnydd ym mhoblogrwydd gweithio hybrid, gyda mwy o staff bellach yn gweithio o gartref.
Llwyddodd Martin i hybu rhoddion yn ardal Abertawe a’r cyffiniau ar ôl rhannu ei stori ac annog cydweithwyr i roi gwaed yn ei rôl fel Prif Weithredwr Cyngor Abertawe. Nawr, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn helpu mwy o sefydliadau i ddilyn yn ôl troed Martin i dynnu sylw at y pwysigrwydd o roi gwaed, trwy gyfrwng pecyn cymorth newydd sydd wedi cael ei adeiladu ar gyfer busnesau o bob maint.
Roedd Martin, 58 oed, yn rhoddwr gwaed ei hun cyn cael tua 25 o drallwysiadau gwaed achub bywyd yn ystod ei driniaeth ar gyfer canser y gwaed. Mae gwaed a’i sgil-gynhyrchion yn chwarae rhan hanfodol mewn achub bywydau, gan gynnwys cleifion â chanser y gwaed fel Martin.
Yn ffodus, fe wnaeth y trallwysiadau a gafodd Martin helpu i sefydlogi ei gyflwr, a chaniatáu iddo barhau â’i driniaeth canser a’i fywyd dydd i ddydd, gan gynnwys ei waith yng Nghyngor Abertawe.
Ym mis Mehefin 2024, cafodd Martin wellhad ysbeidiol o’i ganser, ac meddai, ”Dydych chi byth yn meddwl bod hyn yn mynd i ddigwydd i chi; dyma pam rwy’n cefnogi’r ymgyrch, fel rhywun sydd wedi derbyn cymaint o drallwysiadau achub bywyd, ac rwyf eisiau rhoi rhywbeth yn ôl. Byddaf yn ddiolchgar am byth i’r arwyr anhunanol hynny am roi o’u hamser i helpu rhywun fel fi pan roeddwn ei angen fwyaf. Rwyf eisiau defnyddio fy llais nid yn unig fel Prif Weithredwr Cyngor Abertawe ond fel goroeswr canser, i annog cymaint o weithleoedd â phosibl i ymuno â’r ymgyrch achub bywyd hon.”
Mae gan Martin bedwar o blant hefyd sydd bellach i gyd yn rhoi gwaed eu hunain. Aeth Martin ymlaen, “Rhoddodd y trallwysiadau gwaed a gefais gyfle i mi dreulio mwy o amser gwerthfawr gyda fy ngwraig a fy mhlant. Heb gymorth rhoddwyr ar draws Cymru, efallai na fuaswn hyd yn oed yma heddiw.”
Gall sefydliadau gefnogi’r ymgyrch mewn sawl ffordd, o annog gweithwyr a rhwydweithiau proffesiynol i roi gwaed yn lleol, i gynnal sesiynau rhoi gwaed neu ddigwyddiadau ar eu safle i helpu Gwasanaeth Gwaed Cymru i recriwtio mwy o roddwyr.
Mae Frank Murphy, Rheolwr Gweithrediadau Eiddo Ardal yn CEM Berwyn, Wrecsam, hefyd yn cefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru, a dechreuodd roi gwaed drwy ei swyddfa ym 1986.
Wrth siarad am pam y daeth yn rhoddwr gwaed, dywedodd Frank, “Roedd rhoi gwaed yn rhywbeth wnes i am flynyddoedd lawer i ddechrau heb hyd yn oed deall y manteision gwirioneddol sydd ganddo i gleifion mewn angen. Fodd bynnag, newidiodd hyn yn gyflym pan gafodd fy ngwraig lawdriniaeth ar y galon a thair llawdriniaeth achub bywyd arall, ble roedd hi angen trallwysiadau gwaed.”
Aeth Frank yn ei flaen, “Sylweddolais fod gennym gyfle gwych i hyrwyddo rhoi gwaed i gydweithwyr yma yn y Berwyn, felly trefnwyd ein sesiwn rhoi gwaed ein hunain ar gyfer staff. Mae rhoddwyr gwaed wedi achub bywyd fy ngwraig fwy nag unwaith a gallent helpu un o’ch anwyliaid ryw ddydd.”
Mae angen i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu tua 350 o roddion gwaed bob dydd i gyflenwi ysbytai ar draws y wlad gyda digon o waed a chynnyrch gwaed i gleifion mewn angen.
Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, “Mae dod o hyd i sefydliadau sydd â digon o staff ar y safle i gynnal ein hymgyrchoedd rhoi gwaed wedi bod yn her, gyda mwy a mwy o bobl yn gweithio o gartref.
“Felly rydym wedi gorfod meddwl ychydig yn wahanol, ac mae gweithio gyda Martin a Frank wedi rhoi rhywfaint o gyfleoedd cyffrous i ni a allai weithio i unrhyw fusnes, boed yn staff swyddfa, hybrid neu’n staff sy’n gweithio o gartref.
“Mae gennym ni grŵp gwych o sefydliadau yn gweithio gyda ni yn barod, ac rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn helpu mwy o fusnesau i’n cefnogi ni ac i ymuno â’n cymuned o achubwyr bywyd.”
I gofrestru eich gweithle neu ddysgu mwy am yr ymgyrch, ewch i www.wbs.cymru/MBYB.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle