Menter colled synhwyraidd leol yn ennill gwobr GIG Cymru

0
169
Sensory Loss Award

Mae menter i wella sut mae cleifion â cholled synhwyraidd yn cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd lleol wedi ennill Gwobr Gofal Teg GIG Cymru mewn seremoni fawreddog yng Nghaerdydd ddydd Iau 24 Hydref 2024.

Yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, mae tua 15,671 o bobl wedi colli rhywfaint o’u golwg, ac mae gan tua 85,864 golled clyw, sy’n golygu bod colled synhwyraidd yn gyffredin ymhlith defnyddwyr gwasanaethau iechyd.

Mae staff y bwrdd iechyd wedi archwilio ffyrdd o wella a safoni sut mae’n cyfleu dewisiadau cyfathrebu cleifion â cholled synhwyraidd.

Dywedodd Beverly Davies, Rheolwr Partneriaeth Strategol a Chynhwysiant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau darparu gwasanaethau teg i’n holl gleifion a nod y fenter hon yw mynd i’r afael ag anghenion penodol ein cleifion â cholled synhwyraidd.

“Gan weithio gyda’n gilydd, rydym wedi cynyddu ymwybyddiaeth o sut y gallwn ddiwallu anghenion cyfathrebu cleifion yn well trwy ddefnyddio marcwyr cofnodion cleifion ac rydym wedi datblygu canllawiau staff ar ddefnyddio ein system gweinyddu cleifion digidol yn effeithiol.

“Mae’r newidiadau hyn eisoes yn gwella profiad cleifion a staff. Er enghraifft, mae mwy o’n staff bellach yn cwblhau’r modiwl e-ddysgu colled synhwyraidd ac yn cymryd rhan mewn defnyddio fformatau amgen megis Hawdd ei Ddarllen, Darllen yn Uchel, Iaith Arwyddion Prydain, a hyfforddiant senarios megis ymarfer efelychu colli golwg”

“Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o’n cynlluniau adborth: ‘Gofynnon ni, fe ddywedoch chi, fe wnaethon ni’ ac ‘A allwn ni helpu?’.”

Llongyfarchodd yr Athro Phil Kloer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y tîm: “Mae’n wych gweld y gwaith ysbrydoledig hwn yn cael ei arddangos ar y llwyfan cenedlaethol.

“Rydym yn falch iawn o ymrwymiad a chyflawniad ein staff sy’n ymdrechu’n gyson i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion.”

Nod y bwrdd iechyd yw parhau i wella hygyrchedd i bobl sy’n defnyddio ei wasanaethau a datblygu addysg ac ymwybyddiaeth staff yn y maes hwn.

Mae’n bwriadu ehangu’r ffocws hwn i gynnwys anghenion cyfathrebu eraill, megis iaith dramor a hawdd ei ddarllen, gan alinio â Deddf Cydraddoldeb (2010) i atal gwahaniaethu neu anfantais i gleifion â nodweddion gwarchodedig.

Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu gwaith gwella ansawdd sydd wedi trawsnewid y profiad a’r canlyniadau i bobl yng Nghymru ac yn darparu ac yn arddangos y staff iechyd a gofal dawnus yn gweithio gyda’i gilydd i wella gwasanaethau a gofal cleifion ledled Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y wobr hon ewch i:

https://gweithrediaeth.gig.cymru/swyddogaethau/ansawdd-diogelwch-a-gwelliant/gwelliant-cymru/gwobrau-gig-cymru/2024/gofal-teg/biphd-gwellar-profiad-i-gleifion-a-nam-ar-y-synhwyrau/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle