Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu talu am chwe aelod o staff o’r Tîm Allgymorth Gofal Critigol (CCOT) yn Ysbyty Glangwili i fynychu hyfforddiant dehongli delwedd pelydr-X o’r frest.
Mae’r cwrs dehongli delweddau pelydr-X o’r frest wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion penodol yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dod ar draws pelydr-x o’r frest yn rheolaidd.
Cyflwynwyd y cwrs gan ddarlithwyr Prifysgol Gorllewin Lloegr (UWE) Bryste, radiograffwyr arbenigol ac arbenigwyr Adran Achosion Brys.
Dywedodd Rachel Williams, Arweinydd Allgymorth Gofal Critigol yn Ysbyty Glangwili: “Diolch i’r cyllid hael gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, roeddem yn gallu dyfarnu lle i chwe aelod o staff ar gwrs dehongli pelydr-X o’r frest yn UWE, Bryste.
“Dysgwyd y tîm sut i fynd ati’n systematig i ddehongli delweddau pelydr-X o’r frest a sut i adnabod yr achosion ‘baner goch’ hynny.
“Mae’r hyfforddiant hefyd wedi adeiladu ar y wybodaeth bresennol o adnabod lleoliad llinellau ymledol, draeniau a thiwbiau endotracheal. Mae hwn yn sgil clinigol blaengar i’r Tîm Allgymorth Gofal Critigol a bydd yn amhrisiadwy wrth reoli ein cleifion sy’n ddifrifol wael ar draws Ysbyty Glangwili.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle