Gyrfa Cymru yn ychwanegu dylanwadwr TikTok ac arbenigwr ar losgfynyddoedd at adnodd Dinas Gyrfaoedd ar gyfer ysgolion cynradd

0
203
Mae Gyrfa Cymru wedi ehangu ei adnodd poblogaidd Dinas Gyrfaoedd, a gynlluniwyd i ymgysylltu dysgwyr ysgolion cynradd ym mlynyddoedd 5 a 6 â byd amrywiol gwaith, trwy ychwanegu dau lwybr gyrfa newydd cyffrous – entrepreneur siop TikTok ac arbenigwr ar losgfynyddoedd. Mae Dinas Gyrfaoedd yn fap rhyngweithiol sy’n helpu dysgwyr ifanc i archwilio gwahanol yrfaoedd a chyfleoedd sydd ar gael iddynt trwy animeiddiadau difyr a deunyddiau ystafell ddosbarth ategol. Gyda deunyddiau ystafell ddosbarth ategol a nodiadau ar gyfer athrawon, bydd yr adnodd yn helpu athrawon i gynnwys gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn eu cwricwlwm.
Trwy glicio ar adeiladau a nodweddion ar y map sy’n cynrychioli gwahanol sectorau, bydd dysgwyr yn cael eu tywys i animeiddiad sy’n cynnwys swydd ‘anarferol’ o fewn y sector penodol hwnnw, fel technegydd atgyweirio tedi bêr, rhewlifegydd, neu beilot dronau’r heddlu.
Bydd pob animeiddiad yn rhoi gwybodaeth am y swydd sy’n addas i oedran y dysgwyr, gan gynnwys natur y swydd, yn ogystal â’r diddordebau, sgiliau neu rinweddau a fydd yn ddefnyddiol i allu gwneud y swydd, a phynciau y gallent fod am eu hastudio i ddilyn yr yrfa honno.
Manylir ar yr ychwanegiadau newydd o’r sectorau manwerthu a gwyddorau bywyd isod:
  • Mae rôl entrepreneur siop TikTok yn dangos amgylchedd manwerthu anhraddodiadol, lle gall busnesau ffynnu trwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Mae siop TikTok yn caniatáu i ddefnyddwyr brynu cynhyrchion yn uniongyrchol wrth wylio fideos TikTok LIVE, wrth bori fideos sydd yn y ffrwd ar y dudalen ‘I Chi’, trwy glicio ar fathodynnau siopa proffiliau brandiau sydd wedi’u pinio, neu drwy’r tab ‘siop’ newydd.
  • Mae rôl yr arbenigwr ar losgfynyddoedd yn trochi dysgwyr ym myd cyffrous gwyddorau bywyd a daeareg. Mae arbenigwyr ar losgfynyddoedd yn astudio llosgfynyddoedd ledled y byd, gan ddadansoddi eu patrymau, samplau o’u creigiau a’u lludw i ddarganfod pryd y gallent ffrwydro ac i helpu i atal anafiadau pan fyddant yn gwneud hynny.
Mae’r sectorau dan sylw yn cynnwys y rhai sy’n cael eu hystyried yn ‘sectorau blaenoriaeth’ gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yng Nghymru.
Mae’r rhestr lawn o sectorau a swyddi yn cynnwys y canlynol:
  • Amaethyddiaeth – seicolegydd anifeiliaid anwes
  • Adeiladu – gweithiwr mynediad â rhaff
  • Y celfyddydau creadigol, y cyfryngau a diwylliant – technegydd atgyweirio tedi bêrs
  • Technoleg ddigidol – sibrydwr deallusrwydd artiffisial
  • Addysg – therapydd celf
  • Ynni, dŵr a gwastraff – rhewlifegydd
  • Cyllid, yswiriant a chyfreithiol – archwilydd troseddau ariannol
  • Iechyd – technolegydd genetig
  • Gweithgynhyrchu – gwyddonydd mynegiant protein
  • Gwasanaethau cyhoeddus – peilot dronau’r heddlu
  • Twristiaeth, lletygarwch, chwaraeon a hamdden – hyfforddwr naid bynji
  • Cludiant a storio – brocer cychod hwylio
  • Manwerthu – entrepreneur siop TikTok
  • Gwyddorau bywyd – arbenigwr ar losgfynyddoedd
Dywedodd Mark Owen, pennaeth gwasanaethau i randdeiliaid Gyrfa Cymru:“Rydym ni wrth ein boddau yn ychwanegu’r ddwy swydd gyffrous hyn at yr adnodd Dinas Gyrfaoedd. Mae’r entrepreneur siop TikTok a’r arbenigwr ar losgfynyddoedd yn enghreifftiau gwych o ba mor amrywiol a deinamig y gall byd gwaith fod.
“Mae Dinas Gyrfaoedd wedi’i gynllunio i ennyn diddordeb ac ysgogi trafodaeth ymhlith dysgwyr ar lefel ysgol gynradd a’u hannog i feddwl am swyddi a allai fod o ddiddordeb iddynt.
“Fel thema drawsgwricwlaidd orfodol yn Cwricwlwm i Gymru, mae’n bwysig iawn bod athrawon yn cael eu cefnogi i wreiddio’r thema hon yn eu cynlluniau gwersi a’u cwricwlwm yn ehangach.
“Rydym yn annog athrawon ysgolion cynradd ledled Cymru i edrych ar sut y gallant ddefnyddio’r map hwn yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain, ac i helpu i ehangu gorwelion a chodi dyheadau dysgwyr.”
Mae Dinas Gyrfaoedd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Datblygu’r DU eleni, digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan y Sefydliad Datblygu Gyrfa, yn y categori “Defnydd o Dechnoleg wrth Ddatblygu Gyrfa”.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddinas Gyrfaoedd ar gael ar wefan Gyrfa Cymru.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle