Codwr arian yn cerdded 87,000 o gamau ar gyfer Uned Gofal y Galon Acíwt

0
128
Pictured above: Sam Faulkner with staff from the Cardiac Care Unit

Mae Sam Faulkner, codwr arian, wedi cwblhau ei her 87,000 cam ac wedi codi swm anhygoel o £2,609 ar gyfer Uned Gofal y Galon Acíwt yn Ysbyty Llwynhelyg.

Cwblhaodd Sam yr her ym mis Gorffennaf pan gerddodd ar hyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu o Aberhonddu i Dŷ-du yng Nghasnewydd er cof am ei dad. Hwn oedd ail godwr arian Sam ar gyfer yr uned a ddarparodd ofal i’w Dad yn ystod ei ddyddiau olaf. 

Dywedodd Sam: “Roedd yn anrhydedd unwaith eto codi arian ar gyfer Uned Gofal y Galon Acíwt yn Ysbyty Llwynhelyg er cof am fy Nhad ac i gydnabod y gofal eithriadol a roddwyd iddo gan y staff hyfryd ar yr uned yn ystod ei ddyddiau olaf. Byddwn ni fel teulu yn ddiolchgar am byth i’r uned am eu caredigrwydd ac edrychaf ymlaen at barhau i godi mwy o arian ar eu cyfer yn y dyfodol!”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian Sir Benfro: “Hoffem ddweud da iawn i Sam am gwblhau ei her. Diolch yn fawr iawn am neilltuo eich amser i godi arian unwaith eto ar gyfer yr Uned Gofal y Galon Acíwt.”

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle