Llwyddo’n Lleol yn cynnig cyfle i raddedigion prifysgolion gorllewin Cymru i ennill hyd at £1,000 i ddechrau busnes

0
259

Ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, mae Llwyddo’n Lleol yn cynnig hyfforddiant busnes i raddedigion a myfyrwyr yn rhanbarth ARFOR sy’n dymuno dechrau busnes.

Mae’r rhaglen hyfforddi hon yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy’n fyfyrwyr neu’n raddedigion o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sef y tair prifysgol yn rhanbarth ARFOR. Fel rhan o’r rhaglen, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael sesiynau gydag arbenigwyr busnes yn canolbwyntio ar agweddau megis marchnata, rheoli cyllid a denu cwsmeriaid. Yn ogystal â chefnogaeth arbenigol, bydd y rheini sy’n cymryd rhan hefyd yn cael cymorth ariannol gwerth £300 i ddatblygu eu syniad busnes.

Adam Jones (Adam yn yr Ardd) fydd yn llywio’r sesiynau ac yn herio’r unigolion i ddefnyddio eu dychymyg wrth gynnig datrysiadau i broblemau busnes. Mae Adam yn un o raddedigion disglair Prifysgol Aberystwyth, ac yn hwylusydd profiadol ym maes addysg uwch a’r byd gyrfaol.

Dywedodd Adam: “Mae’r cwrs hwn yn gyfle perffaith i glywed oddi wrth entrepreneuriaid, sydd wedi bod yn eich esgidiau chi yn barod ac yn gallu rhannu’u cyngor a’u profiad i’ch rhoi ar ben y ffordd.

“Fel un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd wedi sefydlu fy musnes fy hun yn y blynyddoedd diwethaf, byddwn i wedi neidio cam a naid i gael cyfle tebyg, yn rhad ac am ddim, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg!”

Un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd eisoes wedi elwa o gymorth Llwyddo’n Lleol i fusnesau yw Dylan Glyn. Llwyddodd Dylan gyda’i gais i gael cymorth gan brosiect Llwyddo’n Lleol drwy’r elfen Mentro.

Yn sgil y cymorth hwn, cafodd Dylan yr hwb a’r hyder i agor ei siop gyntaf, Cymro Vintage, ar stryd fawr Caernarfon. Mae’r siop erbyn hyn yn mynd o nerth i nerth!

Dywedodd Dylan: “Mae Llwyddo’n Lleol wedi bod yn andros o help i mi. Mae’r prosiect wedi fy helpu i gael yr hyder roeddwn i ei angen i fynd ati i wneud pob ymdrech tuag at ddatblygu’r busnes.

“Mae’r profiad hefyd wedi rhoi’r hunansicrwydd i mi y galla i wneud unrhyw beth efo’r busnes, hyd yn oed ar ôl i bobl eraill awgrymu na fyddwn i’n llwyddo.

“Roedd bod o gwmpas pobl oedd yn credu ynddoch chi ac efo’r un meddylfryd wir yn hwb i ni i gyd fel entrepreneuriaid ifanc.”

Os oes gennych chi, fel Dylan, syniad busnes sydd angen ei wireddu, neu os ydych chi’n gweld bod yna fwlch yn y farchnad, yna ymgeisiwch am y cyfle hwn heddiw.

Mae yna le ar gyfer 12 unigolyn i gyd-ddysgu ar y rhaglen hyfforddiant busnes a fydd yn cael ei chynnal ar gampws Prifysgol Aberystwyth yn ystod penwythnos 15–17 Tachwedd 2024.

Mae llety ar gael os oes angen. Bydd y gweithdai yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg, felly bydd angen i’r rheini sy’n cymryd rhan fedru deall a chyfathrebu yn y Gymraeg.

Ar ddiwedd y penwythnos preswyl, bydd cyfle i’r unigolion rannu eu syniadau busnes o flaen panel o feirniaid gyda’r nod o ennill gwobr o hyd at £1000!

Mae’r ffenestr ymgeisio bellach ar agor ac mae’r dyddiad cau, sef 3 Tachwedd, yn prysur gyrraedd. Felly peidiwch oedi ac ymgeisiwch heddiw drwy lenwi’r Ffurflen Gais yma.

Nodiadau i Olygyddion:

Capsiynau ar gyfer y fideo / lluniau:

  1. Poster Elfen Mentro Prifysgol Aberystwyth – Cymraeg

  2. Poster Elfen Mentro Prifysgol Aberystwyth – Saesneg

  3. Fideo o Agoriad Siop Cymro Vintage 

CEFNDIR ARFOR

Mae ARFOR yn rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cytundeb Cydweithredol â Phlaid Cymru. Mae’n rhaglen ar y cyd gan gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygiad economaidd i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg, a thrwy hynny, gynnal yr iaith. O dan raglen ARFOR, mae yna sawl cronfa sy’n cynnig grantiau ariannol i fusnesau ac unigolion, fel Cronfa Her ARFOR a’r Gronfa Cymunedau Mentrus. Am ragor o wybodaeth am yr uchod a rhaglen ARFOR, ewch i www.rhaglenarfor.cymru.

CEFNDIR LLWYDDO’N LLEOL 2050

Un o brosiectau rhaglen ARFOR yw Llwyddo’n Lleol 2050. Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael, neu sydd eisoes wedi gadael, fod modd cael dyfodol disglair, a swydd dda mewn maes cyffrous, yn eu cymunedau cynhenid. Mae prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 yn cael ei weinyddu ar y cyd gan Mentera a Menter Môn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle